Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffiol

ffiol

Yn anffodus nid eglurwyd hyn i'r gard Koreaidd, ac wedi methu cael dim ond un ffiol o'r cyffur ar y farchnad ddu, fe'i chwistrellodd ei hun â chynnwys honno.

Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.