Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffisegol

ffisegol

Mae'n fud yn yr ystyr ffisegol, ond mae hefyd yn gwbl ddiffrwyth a dibwys.

Hwy, y pethau diddarfod hyn, sy'n aros yn realiti ffisegol.

Nid oes gwybodaeth fanwl pryd y gosodwyd i lawr derfynau'r plwyfi ond yn ddiamau fe fu nodweddion ffisegol y wlad fel afon a bryn, toriad y dŵr ynghyd â hen lwybrau dyn ac anifail gwyllt a dof yn help i benderfynu'r ffin.

Oherwydd nid canlyniad rhyw un digwyddiad rhyfedd a phrin oedd y greadigaeth Ddaearol, ond, yn hytrach, ganlyniad anochel y sefyllfa gemegol a ffisegol oedd yn bod.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb angerddol yn y gwyddorau ffisegol a mecanyddol, ac ar ôl treulio diwrnod o waith yn dysgu cerddoriaeth, ei arfer oedd astudio gwyddoniaeth yn ei amser hamdden.

Yn Lloegr yn y tridegau cafwyd gweithiau Arthur Eddington, Edmund Whittaker, James Jeans, Bertrand Russell ac eraill a lwyddodd i gryn fesur i gyflwyno darganfyddiadau ffisegol y dydd mewn iaith ddealladwy i ddarllenwyr difathemateg.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Y mae meddwl y gwyddonydd ei hun mor gaeth i reolau ffisegol â symudiad y piston ym mheiriant y car modur, Ar ba sail felly y gellir honni fod unrhyw ddamcaniaeth wyddonol yn "wir".

Cyfres sy'n cynnig deunyddiau syml ar gyfer cyflwyno Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 2 gyda'r pwyslais ar adran 4 y Cwricwlwm - Prosesau Ffisegol: Y Ddaear a r tu hwnt.

Ond beth bynnag yw naws cynhwysydd y wybodaeth, rhaid iddo yn gyntaf oll fod yn rhywbeth ffisegol.