Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffit

ffit

Gwisgais fy ffrog siyrsi winau - rhag ofn i Emli feddwl mai dim ond y siwt a wisgwn i ar y prom oedd yn ffit i'w gweld - a chardigan o liw mwstard, a phar newydd o sanau neilon.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

"Ddim ffit!" meddai Dad wedyn, gyda mwy o bwyslais fyth.

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Bu Teg yn rhoi gwersi gyrru iddi am sbel ond penderfynodd Teg nad oedd hi'n ffit i fod ar y ffordd.

Eto i gyd, mae'r plant hyn yn cael eu hystyried yn ddigon ffit i fedru byw yn y gwersyll ei hun.

Ond bydd y ddau'n ffit ar gyfer eu teithiau haf, y naill gyda'r Llewod, y llall gyda Chymru.

Ond maen rhaid gwneud pethau fel hyn i gadwn ffit ar gyfer y tymor nesaf.

Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno.

A 'dw i'n credu fod y bobol sy'n newid fel bo'r gwynt yn ffit i gael pleidlais ne' maen nhw'n ffit i gael teledu.

O'i gyfieithu, doedd hanes Ifan, y brawd fenga, ddim yn ffit iddo fo'i hun ei glywed o.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

Tybed nad ydyn nhw, wedi iddyn nhw gael ein cefnau ni, yn mynd i'w hystafelloedd, yn cloi arnynt eu hunain, ac yn cael ffit orffwyll o chwerthin þ am ein pennau ni?

'Dydyn nhw ddim yn ffit i gael y ddau.' O,

Er hynny, bu bron i Morfudd gael ffit yn awr wrth weld y fath olwg oedd arni.

Ond, yn wir i chi, yng Nghaerdydd yma doedd y tywydd ddim ffit ichi gamu allan o'r ty.

'Bydd pobl yn teimlo'n fwy ffit, yn llawn bywyd ac yn iachach,' ebe'r Athro John Catford, Cyfarwyddwr Gweithredol Curiad Calon Cymru.

Bydd amddiffynnwr Wrecsam, Dave Ridler, yn cael prawf i weld a fydd e'n ffit mewn pryd i'r gêm.

Mae Cymry'n Colli Pwysau yn rhaglen hybu iechyd sy'n annog pobl i fod yn ffit, a cholli pwysau'n ddiogel a llwyddiannus.

Gwellodd Lloegr mewn sawl agwedd - mae nhw'n fwy ffit, yn gryfach ac yn fwy trefnus nag erioed o'r blaen.

Roedd o'n ei hadnabod hi'n ddigon da i wybod na fyddai ei ffit o dymer yn para'n hir.

Roedd Taylor wedi gobeithio y byddai Jones yn ffit ar gyfer y gêm gydag Aston Villa neithiwr - lle collodd Caerlyr 2 - 1.

Rhyddhaodd Alun ei hun o freichiau Nia ac meddai wrthi: "Tyrd, mi awn ni i ofyn i dy dad gei di fenthyg y car i fynd â mi i Berth y Felin." "I beth?" "I ddweud wrth Jenkins y twrne nad ydw i am werthu'r fferm." "Dwyt ti ddim ffit i fynd allan a tithau newydd godi o dy wely," meddai ei fam .

Ailadroddai'n aml: 'Tydi'r hen for yna ddim ffit i neb call'.