Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fflachio

fflachio

Yn y Gaiman yr oedd yr ymarfer hwnnw a elwir yn u turn neu dro pedol gennym ni yn un hynod boblogaidd - ac annisgwyl - gyda gyrwyr eraill yn dibynnu mwy ar delepathi na goleuadau fflachio i wybod beth mae gyrrwr o'i flaen yn mynd i'w wneud nesaf.

Fel anghenfil mawr, gyda'i oleuni'n fflachio a'i gorn yn canu rhuodd y lori drwy'r strydoedd.

Taflodd gipolwg dros ei ysgwydd a gweld metel yn fflachio yn y golau egwan.

Diffoddwyd y goleuadau ac yna gwelai Glyn un golau bach yn fflachio yn y pellter.

Fe ddylai'r cyrchwr fod yn fflachio o flaen y gair fy.

Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.

Wrth ichwi ddechrau teipio bydd y llythrennau yn ymddangos lle mae'r cyrchwr yn fflachio.

Yn nesa gosodwch y cyrchwr ar ôl Wali Tomos ac o'r ddewislen Edit dewiswch Paste; mae hyn yn gosod beth bynag sydd ar y Clipfwrdd i mewn lle mae'r cyrchwr yn fflachio.

Gwibiodd y fan ar hyd y strydoedd a'i seiren yn rhuo a fflachio.

Yna camodd ymlaen a fflachio'r golau ar y gilfach agosaf ato yn y mur.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Cododd y llanc ei ben o'i gwpan am y tro cyntaf a gellid gweld drwgdybiaeth yn fflachio yn ei lygaid llwydion.

Y funud nesaf roedd y cleddyf yn fflachio yn llaw Idris.

Gwelai Douglas yr haearn yn fflachio o flaen ei drwyn.