Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fflamau

fflamau

Roedd yr hogiau wedi rhoi digon o goed ar y tân, y fflamau yn saethu i'r awyr ac yn taflu cysgodion digri o gwmpas.

Mae'r fflamau anferth yn cynhyrchu goleuni sy'n teithio trwy wagleoedd eang y gofod eithaf yn drybeilig o gyflym.

Bu farw tair merch fach a dwy wraig yn y fflamau.

Siawns na chredodd honno chwaith wrth wreichionni ar dafod ysig y fflamau y doi iddi eto awr o ogoniant aur.

Caeodd hithau'r drws ac aeth i eistedd wrth y tân, lle'r oedd Twm a Bet yn synfyfyrio'n gysglyd i ganol y fflamau.

Curai eu hadenydd a rhwygai eu crafangau'r ddaear wrth iddyn nhw saethu fflamau gwynboeth o un i'r llall.

Ond fe ddiffoddwyd y fflamau hynny a gyneuwyd gan ddynion a fynnai reoli'r byd crwn cyfan yn fuan - nid oedd golau'r gobaith mor hawdd ei ddiffodd.

Cofiaf noson o aeaf yn y gegin fawr, a'r llu wynebau chwilfrydig, wedi eu goleuo gan fflamau'r tân, yn gwrando ar lais cras Owen Owens.

Cydiodd y fflamau yn y gwellt a'r rhedyn a chyn hir roedd y ddaear i gyd yn wenfflam.

(Rhuthrai'r gwynt drwy'r buarth caregog tu allan i'r ffenestr hir, a fflamau'r tân llydan yn ymestyn i fyny ceg y simnai fawr.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Ymhen eiliadau roedd y frigâd dân wedi cyrraedd a rhuthrodd y dynion tân i'r t i ddiffodd y fflamau.

Sūn fflamau tân glo yn llempian ac yn chwythu, aroglau lamp baraffin newydd ei golau, grwndi'r gath ar y mat yn gefndir i ddigwyddiadau amrywiol Nedw ac Wmffra.

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

Rhuodd y belen bicellog drwy'r awyr fel jet, cynffon o wreicchion a fflamau'n ei dilyn.

Disgrifiodd un o'r bechgyn y profiad fel cerdded drwy fflamau tân heb gael eich llosgi ganddynt.

Rhaid cysegru a diheintio'r lle â'r fflamau chwyrn cyn y bydd gweddill y tylwyth yn fodlon byw yno eto.