Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fflatiau

fflatiau

Yr oedd y fflatiau yn rhad a gellid eu codi'n gyflym ac yr oedd ynddynt gyfleusterau modern megis ystafell ymolchi, nad oedd i'w cael yn yr hen dai.

Gallai plant chwarae yn y mannau agored rhwng y fflatiau.

Roedd e lan fry mewn bloc o fflatiau diffaith yn Nwyrain Berlin.

Sgaffaldiau bambw yn fframio bloc newydd o fflatiau sydd ar ei hanner.

Roedd y cynllwynwyr eisoes wedi clymu honno wrth simdde'r fflatiau.

Maent yn rhy ifanc i gael unrhyw fudd-dal ac yn methu cael fflatiau.

Codwyd blociau mawr o fflatiau yn eu lle.

Yn y fflatiau edrychodd y ddau a oedd yn awyddus i ddianc tuag at y tŵr a'r rhai a oedd yn gwarchod unwaith eto.

Cafodd y bobl a symudwyd o'r hen ddinas eu hail-gartrefu mewn fflatiau ar gyrion Havana.

Bu'r ddau ddyn yn cuddio yn atig y fflatiau am yn agos i bymtheg awr, yn aros am gyfle i roi cynnig ar eu cynllun mentrus.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Y mae llawer o'r fflatiau yn awr yn wag ac wedi eu bordio ac y mae'r gweddill o bobl sydd yn dal i fyw ynddynt eisiau symud i ffwrdd.

Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Fodd bynnag, y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno yn awr mai methiant fu'r blociau o fflatiau.