Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffodus

ffodus

Gwelodd eraill, y mwyaf ffodus, eu rhieni yn dychwelyd i fynd â nhw adref.

Efo oedd organydd eglwys y plwyf yno, ac 'roeddwn yn ddigon ffodus i gael ei adnabod a'i glywed wrthi'n canu'r piano yng nghartrefi rhai o drigolion Y Waun yn ogystal ag yn ei gartref ef ei hun.

Yn ffodus roedd llong achub arall ar ei ffordd i'w helpu nhw hefyd.

Yn naturiol, siaradais Gymraeg, ac roedd hyn yn ffodus, gan fod heddwas di-Gymraeg annymunol yn rhedeg y sioe, ac yn amlwg yn joio ei waith.

Roedd Lloegr yn ffodus i fod ar y blaen 2- 1 ar yr egwyl diolch i gic o'r smotyn gan Alan Shearer a gôl gan Michael Owen.

Yn ffodus i'r ffermwyr hyn, mae eira trwm Sweden yn y gaeaf wedi bod o ryw help iddyn nhw i ddod o hyd i'r baeddod, ac felly yn rhoi cyfle iddyn nhw i'w dal neu eu lladd nhw.

Yn ffodus cafwyd gwr â feddai brofiad maith fel Gweinidog i'w olynu, sef y Parchedig E.

Yn Ciwba, fe fuon ni'n ffodus i gael Rafael, pennaeth gwarchodwyr Havana.

A roedden nhw'n ffodus iawn yn y mundau ola wrth i George Demetradze o Kiev fethu gôl gyfan o chwe llath.

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

Gwir bod yna lenorion yng Nghymru o hyd sy'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn famiaith, ond y maen nhw dan bwysau hefyd.

'Henaint ni ddaw ei hunan', w'sti." "Rwyt ti'n ffodus." "Ydw wir; mae Megan gen i o hyd a'r plant i gyd o fewn cyrradd." "Ac yn Gymry i'r carn." "O, rydw i'n cyfri 'mendithion, raid i ti ddim gofalu ond chefais i ddim bywyd mor foethus â chdi cofia." "Ddim yn faterol, naddo.

Wedi'r cyfnod o ddwy flynedd yn astudio Anatomeg bu+m yn ffodus iawn o ennill ysgoloriaeth fechan ac roedd hon yn werthfawr yn fy ngolwg gan fy mod hyd hynny wedi dibynnu'n gyfan gwbwl ar fy nhad am gefnogaeth ariannol.

Plentyn ei gyfnod oedd, ac mewn rhyw ystyr yr oedd yn ffodus yn ei genhedlaeth, gan dyfu'n fachgen cryf ac abl o ran corff a meddwl.

Bu Cynan yn ffodus na chafodd ei 'awdl' ei diarddel o'r gystadleuaeth.

Yn ffodus cyhoeddwyd Cyflwyniad Byr ar wahan i'r ddogfen ac amgaeaf gopi o'r cyfryw i'ch sylw.

Helfa ffodus arall a gefais oedd honno yn llyfrgell Shankland ym Mangor.

Ond yn ffodus iawn fe gafodd Aled 'i daflu allan o'r car, yn ddi-anaf.

Yn wyneb hynny mae'n ymddangos, felly, fod Chesterfield wedi bod yn ffodus tu hwnt.

Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.

Yn ôl y chwedl, roedd hi'n bosibl i bwy bynnag fyddai'n ddigon ffodus i wrando ar yr anifeiliaid, ddysgu rhyw gyfrinach fawr.

Roeddem yn ffodus yn y rhai fu'n ceisio ein dysgu i ganu.

Doedd Gruffydd Hughes yn fawr o longwr a doedd fy nhad yn fawr o chef; ond ei fod yn ddigon ffodus i fedru gwneud tipyn o beef tea i'w gyfaill, oedd yn ei wely yr holl ffordd o New York i Lerpwl!

Prin oedd y celfi, dim ond y pethe sylfaenol, ond yn ffodus, roedd yn y ty gegin lawn gyda ffwrn split-level crand, a chypyrdde o'i chwmpas i gyd.

Bendith nid bychan oedd medru cysgu'n dawel trwy un noson, ac yr oeddwn i yn ffodus yn hyn, er nad oedd dim sicrwydd byth wrth noswylio pa fath o noson a gawn.

Ond yn ffodus digwyddodd fod dau esgob o Ffrainc yn y cyffiniau ar y pryd, a hwy a achubodd y dydd.

Yr oedd yn frodor o'r ardal, ond fel yr awgrymais, y peth arbennig o ffodus yn ein cyfarfyddiad oedd mai ganger oedd Mr Jones cyn i'r lein gau.

Yn fwy ffodus na Mary, druan, mae hi wedi cyflawni gofynion rhaglen addysgiadol Mr Evans, hen weinidog Blaenycwm ac wedi dychwelyd i wareiddio Cymru.

Yn ffodus iawn, fel y digwyddodd, yr oedd Davies yn gyfaill agos i Matthew Parker, archesgob Caergaint, a hefyd yn bur adnabyddus â William Cecil, prif gynghorwr y Frenhines.

Ni ddylid bychanu'r elfen ffodus yma, ond mae yna berygl i ambell un dderbyn y darlun arwynebol heb gadw mewn golwg mai crynodeb hwylus sydd gennym.

Mae Sefydliad y Merched Sant y Brîd yn ffodus i gael ymhlith yr aelodau dwy sy'n trefnu blodau yn broffesiynol.

Yr ydym yn ffodus i gael ein cynrychioli ar y cyngor hwn.

Ambell flwyddyn yr ydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael stoncar o goeden syn edrych fel pe byddai wedi gallu byw tan yr haf! Y llynedd, wedyn, yr oedd hi'n geoden drychinebus gyda nodwyddi yn cwympo ym mhob man.

Yn un llun gwelir sgrîn deledu yn dangos gweddillion tū a chwalwyd mewn ffrwydrad - tū un o fodrybed david Gepp un Belffast, a oedd yn ffodus i beidio â bod yno ar y pryd.

Rydym yn hynod ffodus ein bod wedi llwyddo i benodi Menna Richards fel olynydd i Geraint.

Yn ffodus iawn, fe recordiais i rai o'r darlithoedd hynny, ac ambell hwyrnos gaeaf mi fyddaf yn rhoi'r tâp yn y peiriant, ac yn cael mwynhad o ailwrando, ac o all-greu hwyl y gwmn aeth felys honno ar ben yr odyn.

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Ychydig iawn o ddefnydd sydd wedi dod o'r darganfyddiadau hyn, ond yn ffodus mae gwledydd yn fodlon ariannu rhywbeth sy'n rhan o'n diwylliant.

'Rydym ni'n ffodus bod hon wrth law.

Bu+m yn ffodus eto i gwrdd â cherbyd modur, dan ei faich o Eidalwyr y tro hwn, a theithiais yn gysurus yn ôl i'r autostrada.

Yno, yn ffodus, roedd yna drên i gyfeiriad Llundain yn ein disgwyl a chyn pen chwinciad roedden ni yn ôl yng nghyffiniau Llandudno eto.

'Mae e'n ffodus iawn bo fe'n weddol ysgafn a gobeitho gallwn ni gadw'i bwyse fe lawr i farchogaeth ar y fflat,' meddai Hywel.

Ffrainc ydyr ffefrynnau newydd i ennill y gystadleuaeth ar ôl iddyn nhw chwaraen ardderchog a churo Denmarc 3 - 0 yng Ngrwp D. Yn yr un grwp, roedd y ffefrynnau cyn i'r gystadleuaeth ddechrau, Yr Iseldiroedd, yn ffodus o ennill 1 - 0 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

yn ffodus roedd bar yn y stryd, a phenderfynodd hi gael cwpanaid o goffi a theisen.

Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.

Nid yn unig yr oeddwn i a'm cyfoedion yn ddigon ffodus i gael y cyfle i wrando ar Lloyd y Cwm a'i debyg o dro i dro, ond fe ddeuem ar draws aml i berson cyffelyb ar ddyddiau'r wythnos hefyd.

Yn ffodus, ni chafodd ei ddal.

Roedd eraill yn llai ffodus fyth.

Yn ffodus, roedd pennaeth y meindars yn dal i fod yn ei 'swyddfa' yn y gwesty.

Yn ffodus mae'r technegau diweddar o ddefnyddio cyfrifiadurion a phrosesau delweddu wedi galluogi seryddwyr i ddarganfod llawer o'r galaethau estynedig fel C.

'Roedd Gwyndaf yn ffodus mai T. Gwynn Jones oedd un o'r beirniaid.

Yn ffodus, fe wyddai ei wraig ac yntau ddigon o Saesneg i Douglas eu deall.

Am gyfnod helaeth, dyna, yn wir, oedd y sefyllfa, ond yn ffodus, ni throsglwyddwyd meistrolaeth y cryse duon yn bwyntie, ac eithrio cic gosb gan John Poole.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Pan ymunais â BBC Cymru fel rheolwr ym mis Chwefror eleni, roeddwn yn ffodus iawn.

Yn ffodus yr oedd ganddi sens o hiwmor a deallodd y sefyllfa.

Hyd yn hyn, roedd eu tref nhw wedi bod yn ffodus ...

Os ydych ymhlith y lleiafrif ffodus sy'n ystyried prynu carafan newydd sbon yn hytrach nag un ail-law, yna mae'n bosib y cewch chi fargen ychwanegol drwy roi eich archeb yn ystod wythnos y sioe.

Yn ffodus nid oes neb wedi llwyddo gan fod holl gymhlethdodau Gwyddbwyll yn fwy nag a all meddwl dyn eu datrys.

Os nad oedd Eingl-Gymro'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn ail iaith iddo pan oedd yn ddigon ifanc ac i gael byw mewn ardal wirioneddol Gymraeg, 'ddaw o byth yn gystal llenor yn yr iaith honno ag y gallasai fod yn Saesneg.

Y mae'r bobl yn hoffi'r ardal gymaint fel bod y rhai ffodus yn byw yn y Parc a theithio i'w gwaith yn Sheffield.

Mewn llythyr at ei dad, y Brenin Harri IV, disgrifia'r tywysog sut y teithiodd tuag at Sycharth a 'phan gyrhaeddon ni, nid oedd yr un enaid byw i'w weld, ac felly llosgon ni'r llys cyfan yn ulw.' Rydym ni'n ffodus heddiw fod Iolo Goch wedi disgrifio'r llys hwn o'r Oesoedd Canol mor fanwl cyn iddo ddiflannu am byth.

'Dwi'n ffodus fy mod i'n cael cyfle i chwarae pob math o rannau, ac i ymddangos ym mhob math o gynyrchiadau,' meddai.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Bu'r Eglwys yn ffodus drachefn i sicrhau teulu a ddymunai barhau traddodiadau gorau'r gorffennol.

Yn ffodus mae gweithwyr y gwasanaethau achub, trwy eu medr a'u dewrder yn medru goresgyn pob math o broblemau er mwyn achub bywydau.

Pan lwyddodd Bardeen, Brattain a Shockley i fwyhau foltedd trwy ddefnyddio grisial bychan o germaniwm, yn ffodus roedd y wybodaeth o hanfodion ffiseg solidau, ac yn arbennig ffiseg lled- ddargludyddion yn weddol gyflawn, yn dilyn damcaniaethau a seiliwyd bymtheg neu ugain mlynedd ynghynt.

Nid oes, erbyn hyn, amheuaeth bod gwerth barhaol addysg feithrin o safon i'r plant sy'n ddigon ffodus i'w dderbyn.