Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffoi

ffoi

Bu'n rhaid iddynt ffoi oherwydd y sefyllfa drychinebus sy'n bodoli yn Zaire, lle'r oeddynt wedi cyflawni gwaith gwych am flynyddoedd.

Roedd yn rhaid iddo ffoi o'i gartref rhag llid yr heddlu a milwyr Hussein.

Pan ddeuai'r glaw trwm yn yr haf, byddai'r afon yn gorlifo, gan orfodi cannoedd o deuluoedd i ffoi o'u cartrefi rhag y dwr a'r carthion.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Mae Rhian Mulligan yn ffoi i Gymru o Iwerddon -- ar fferi Stena Sealink wrth gwrs -- i chwilio am erthyliad gan ei bod yn babyddes ffyddlon, mae hyn yn ddigon drwg.

Daeth awydd arnaf i ffoi o'r lle hwn a'i atgofion, yn ôl at fy mhlant.

Roedd ei deulu'n arfer byw ar y ffin rhwng Iran ac Irac ond mae'n ofni eu bod erbyn hyn wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

Credir fod hyd at hanner miliwn o Eritreaid wedi ffoi o'u cartrefi yn ystod yr ymladd a bod 100,000 wedi croesi'r ffin i mewn i Sudan.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Cofio fel oedd ei mam yn hel ei dilladau i'r trynciau ar frys a'r tad yn clymu y ceffylau wrth y wagen a'r trap i ffoi am ei heinioes fel y dywedodd Eluned yn "Dringo'r Andes".

Hefyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, bu raid i nifer o Lydawiaid ffoi, i Gymru ac Iwerddon yn bennaf.

Wedi sawl blwyddyn yn y mynyddoedd fe benderfynodd ffoi o Cwrdistan, a gan fod ei frawd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fe ddaeth Kamarin, hefyd, i brifddinas Cymru.

Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.

I lawr wrth yr afon gyferbyn â'r ogof mae Cam Lewsyn, dan bentan o graig, un o bobtu'r afon lle y gallai'r herwr lamu dros Irfon i ffoi rhag ei elynion.

Plant trefi Prydain yn ffoi i gefn gwlad.

Yn y blynyddoedd enbyd hyn, yr unig ddihangfa i Brotestaniaid blaengar oedd ffoi am loches i ddinasoedd Protestannaidd y Cyfandir.

Yn ôl un o'i ffrindiau, roedd milwyr hunangyflogedig o Yemen, y Sudan, a hyd yn oed Iorddonen, yn rhan o fyddin Iraq, gan fod cymaint o filwyr Saddam wedi ffoi am eu bywydau.

Diolch i chi am ddod yma yn y gaeaf oer, yng nghanol y glaw.' Roedd wedi ffoi o Kirkuk, ac yn chwilio am ei wraig, ei ddwy ferch a'i fab.

Rwyt yn ailgydio yn y trywydd ond yn fwy effro y tro hwn, felly pan glywi dwrw ar y llwybr ychydig y tu ôl i ti rwyt am ffoi.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac yna yn oes Franco, roedd y Basgiaid yn aml yn ffoi i Lydaw ac yn cael lloches yno.

Mae pobol yn ffoi o hyd rhag milwyr Saddam...

Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.

Roedd rhai wedi llwyddo i gydio yn rhywfaint o'u heiddo cyn ffoi; roedd eraill yn waglaw ac wedi cerdded yr holl ffordd.

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.

Gwersylloedd gelynion sydd wedi ffoi ydynt.

Y mae am ffoi rhag 'dirfawr derfysg gorllewin fyd' (America wrth gwrs) i'r heddwch 'Rhwng muriau anghymarol / Hen dy fy nhad.

'Ffoi am y winllan cyn gynted ag y medrwn ni,' sibrydodd Gareth.