Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffonio

ffonio

Bydd y neges yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmniau ffôn symudol.

Lwyddodd i ffonio naw o'r pymtheg ac roedd pob un ohonynt, ar wahân i Mrs Andrews a oedd yn dibynnu, 'yn dibynnu, Vera fach', arni i gael ei thŷ'n barod cyn ei pharti Nos Galan, wedi deall a derbyn y sefyllfa.

Yna'n cael nerth o rywle a dweud wrthi am ffonio Elsie ei hun (dim perygl iddi hi wneud hynny), ac nad oedd angen fy nghludo pnawn 'fory am fy mod i'n mynd i'r Rhyl yn y bore.

Ffonio Ms Xia i ddarganfod pryd mae'r gwyliau mis Mai.

Mem yn ffonio i ddweud ei bod yn galw bore 'fory.

HEULWEN: .....erbyn iddo fe ffonio'r AA a cherdded y bum milltir yn ôl, roedd rhywun wedi dwgyd ei olwynion blaen e.

Mem yma ddeg o'r gloch ac yn dweud bod rhaid i mi ffonio Elsie a dweud wrthi am newid ein twrn ac yn ychwanegu ei bod hi wedi syrffedu ar y ddwy Saesnes cyn i ni anghydweld ynglŷn â rhyfel y Falklands; gofyn iddi geisio bod yn rhesymol.

Edward yn ffonio ben bore i ddweud ei fod yn bwriadu dod yma tua hanner dydd.

"Pam na fuaswn wedi ffonio'n gynt?

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 99999.

Wedi i'r Alban faeddu Lloegr dros y Sul a'u hamddifadu o'r gamp lawn, tybiais mai'r peth Cristnogol i'w wneud fyddai peidio ffonio a gadael i'r briw rygbi iachau'n raddol.

Hyd y gallaf i weld, yr oedd y Cymry huawdl yn rhy brysur yn cwyno am y trafferthion a gawson nhw i ffonio cystadleuaeth Cân i Gymru.

Mae'n ymddangos fod Cymru yn blaned arall i bobl ET. Efallai y byddain syniad i rywun ffonio adref rhyw ddiwrnod.

Erbyn iddi hi ymuno ag e, roedd wedi gorffen ei frecwast ond cynigiodd ffonio am goffi ffres.

Ffonio mam a dad.

Ymhen rhai oriau o ffonio, mae'n cyfaill yn clywed llais bach tawel ar ben arall y llinell.

'Pan fydda i wedi sgrifennu englyn mae'r hen demtasiwn yna, i ffonio fe a gofyn ei farn.

* Swyddfa mewn ardal Gymraeg ei hiath, er mwyn bod o fewn cyrraedd hawdd i bobol sydd am gwyno ynglŷn ag annhegwch - "Fydd pobol ddim yn fodlon ffonio Caerdydd," meddai, "oherwydd y teimlad o bellter."

Er ffonio a ffonio, does dal dim ateb ar ôl awr o geisio cysylltu ag arwyr yr iaith.

Os yw yn ddamwain ddifrifol mae'n rhaid ffonio'r Arolygaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid peidio ag amharu ar unrhyw beth yn y man lle ddigwyddodd y ddamwain nes ei fod wedi'i archwilio gan yr Arolygydd.

Gwnewch yn siwr fod eich arolygwr profiad ysgol yn cael eich neges mewn pryd i osgoi siwrnai hir a seithug: y mae'n werth ei ffonio yn ei gartref/ei chartref i wneud yn siwr o hyn.

Rhywun ym maes dysgu Cymraeg i oedolion yn cael ei orfodi i ffonio'r Bwrdd Iaith oherwydd ei waith.

Cydnabyddiaeth ddigon swta a gafodd hi y bore hwnnw, ond 'roedd hi'n rhy oer i ddal ato: 'Mi ddeudodd yn glir y bydda hi'n ffonio'.

Mae'n ceisio ffonio eto ymhen rhyw bum munud.

Erbyn hyn roedd hi'n hwyr a dylem i gyd fod wedi bod gartref ers amser ac felly, gadawsom y swyddfa gan adael Mr Roberts Thomas, fel y tybiem, i ffonio'r Prif Uwch-Arolygydd, Mr Merfyn Morgan, gyda chanlyniadau ein hymdrechion.

Ond roedd pob ffôn yn yr hen adeilad mawr hyll yn brysur, a nifer fawr o bobl yn sefyllian o gwmpas yn anniddig yn disgwyl eu cyfle i ffonio.

Gallwch gofrestru eich tîm drwy ein ffonio ar 74983, neu drwy ein e-bostio i'r cyfeiriad gang@bbc.co.uk - a chofiwch y cynta i'r felin gaiff falu.

Fedrai hi ddim ffonio Mos ac roedd ei mam a'i thad yn bwrw'r Sul yn Llundain.

'Pan ddaeth y newydd gynta am gynnal y rownd derfynol yng Nghaerdydd roedd pobol yn fy ffonio, ddim yn gwbod sut bydde'r chwaraewyr yn ymateb i chwarae yno.

Sgwennais at Verghese gan esbonio'r telerau a dweud wrtho am fy ffonio.

Eleni dwi isio diolch i Golwg am gymryd un o gynigion y Cyf Cyff, ffonio pobl i ffeindio gwrthwynebiad, ac yna creu 'rhwyg' yng Nghymdeithas yr Iaith ar dudalennau hardd eu cylchgrawn nhw.

Gwelodd yn dda i ffonio acw wedi buddugoliaeth Cymru dros y Gwyddelod.

Bydd yn rhaid i'r darllenwr edrych yn fanwl arnynt, ac os, ie OS bydd un o'r rhain yr un peth â rhif y cerdyn, peidied gwastraffu eiliad, oherwydd ma'n rhaidd ffonio swyddfa'r papur newydd cyn deuddeg o'r gloch, ganol dydd.

Ewch ati heno i baentio mwy o arwyddion, a chofiwch ffonio'r swyddfa yn Aberystwyth er mwyn i ni eu hychwanegu at y cyfanswm.

Glyn Davies, Ysgrifennydd Rhanbarth yr Undeb, yn ffonio fin nos eisiau cyfarwyddyd sut i gynghori ffermwyr llaeth i lenwi ffurflenni cais am y cwota ychwanegol.

Clywed yr holl ferw a ffonio ei gyfreithwyr.

Ffonio, am ei bod wedi mynd gartref dros y penwythnos ac nad oedd unrhyw un arall yno.

Wnaeth hi ddim petruso o gwbl ac am fod ganddi gar gofynnais iddi alw am Mrs West a Mrs Dixon hefyd Ffonio Mrs Dixon i adael iddi wybod am y trefniadau a hithau; chwarae teg iddi, yn ymddiheuro am y tro anffodus wythnos i heddiw.

Yr hanes yw i dad Harris ei ffonio hi y noson cyn eu priodas i'w rhybuddio, gymaint o sgiamp oedd hi'n mynd i'w briodi ai chynghori i newid ei meddwl.

Gorchmynion rif y gwlith: ffonio Elsie Hughes a gofyn iddi newid y rhestr am nad oedd Mem yn dymuno cludo'r ddwy Saesnes eto.

Erbyn iddo droi'i gefn ar yr olygfa erchyll roedd y car arall wedi hen ddiflannu, gan ei adael i ffonio Llundain a gyrru'n ôl.

Am wybodaeth cyffredinol am yr iaith Gymraeg, gallwch ffonio'r linell wybodaeth Gymraeg: 0845 607 6070.

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Mei ar 718 213, neu mae modd ffonio Rob Davies - rheolwr y grwp - ar 208 239.

Gofynna i gyd-weithiwr iddo geisio ffonio hefyd, ond heb lwc.

Cafodd ganiatâd i ddefnyddio'r ffôn ond doedd ganddi ddim syniad pwy i'w ffonio.

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

Byddai'n siwr o fagu plwc i'w ffonio drannoeth.

Ceisio ffonio adref yn hwyrach ymlaen i siarad efo mam a dad.

I ble ac at bwy y byddai rhaid imi sgrifennu neu ffonio ar ôl hyn?' Ac yn wir, rhaid dweud fod llawer dyn i'w gael sydd wedi ymsuddo ym mheirianwaith bywyd i'r fath raddau nes ei bod yn anodd iawn meddwl amdano fel person: gyda'i holl gyfryngau wrth ei benelin, gyda'i holl effeithiolrwydd at ei alwad, nid yw'n neb na dim - fel dyn.

Charlie, athro yn Ne Hunan yn ffonio i ddweud helo a gofyn inni fynd am dro lawr i Yangshuo dros y penwythnos.

Petai Carol ond wedi gadael i Emyr ei ffonio hi neithiwr, ni fyddai'r un ffrae wedi bod ac ni fyddai hithau'n sefyll yn yr hen le annifyr yma'n disgwyl ei thro i gael ymddiheuro i'w gŵr.

Roedd y cyfarfod ei hun yn dipyn o achlysur - yn ffrwyth bron i flwyddyn o lythyru, e-bostio a ffonio wrth geisio cysylltu â chynrychiolydd democrataidd (eto'n rhyfedd o ddirgel) trigolion Gorllewin Casnewydd.

Setlo lawr i ffonio pobol.

Os mau o wedi mynd ir is orsaf gofun i mam neu dad ffonio Manweb a roi yr trydan off a'i nôl o i ni.

Y cwbl yr oedd arni eisiau ei wneud oedd ffonio Emyr i ymddiheuro am y ffrae.

Mae ffôns y ddau yn dechrau poethi wrth iddynt ill dau ddechrau colli amynedd a ffonio bob yn ail, bob yn ail munud.

Ac fe fyddai'n rhaid iddo ffonio'i mam i esbonio.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.

Cliciwch isod a gwrandewch yn ofalus cyn ffonio 029 20 5 i gystadlu.

Neu ysgrifennwch atom neu ein ffonio yng nghyfeiriadau BBC Cymru yng Nghaerdydd neu Bangor, gweler isod.

Brysiodd i fwyta ei chig seimllyd a'i salad llipa er mwyn gallu ffonio Emyr i sôn am ei phenderfyniad.

Ar un adeg, os canai'r teleffon yn ein tŷ ni rhwng chwech a saith ar nos Sadwrn, gwyddem mai hi a oedd yn ffonio, a gwyddem beth fyddai'i neges.

Roedd hi wedi bod mor siŵr y byddai Emyr yno ar bigau'r drain yn disgwyl iddi hi un ai ffonio neu ddychwelyd.