Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffoniodd

ffoniodd

Roedd ei theyrngarwch yn mynnu ei bod yn cysylltu â hwy hefyd, felly ffoniodd hi Megan Harris, ei chymdoges, a phwyso arni i alw arnynt.

Wedi iddi gyrraedd yno ffoniodd y frigâd dân.

Ffoniodd Mr Yang i ofyn imi a fyddwn i'n fodlon cael fy holi ar y teledu.

Mi ffoniodd Syr Alex Ferguson o hefyd i ganmol y syniad o gael sesiwn ymarfer yn hytrach na chael gemau cyfeillgar ac i ymddiheurio na fydd Ryan Giggs yn La Manga.

Ffoniodd cymydog atom ni'r meddygon yn y dref Gwyddai hwnnw fod Bob yn gorfod gwrando ar ei frawd yn griddfan ddydd a nos, a bod ei gorff yn berwi o chwys drwy'r amser.

Yn ôl adroddiad papur newydd; pan ffoniodd yr aelod o'r Cynulliad, David Davies BT gyda rhyw gwyn neui gilydd cafodd ei roi drwodd i ganolfan alwadau yn Lincoln - lle nad oeddan nhw nid yn unig yn gwybod beth oedd y Cynulliad ond yn meddwl mai rhyw fath o warden hen bobl oedd Mr Davies ei hun.

Ffoniodd Mem i ddweud ei bod wedi newid ei meddwl ac na fydd 'na fwy o firi - am fod Mrs West wedi galw arni.

Ffoniodd Glyn Ebwy y gwesty lle roeddan nhw'n aros i wneud trefniadau prydau bwyd.

Ond Carol a ffoniodd, nid Emyr.

Wedi gwylltio'n gacwn, ffoniodd hi'r rhif ar waelod y ffurflen Saesneg a dechrau pregethu ynglyn â hawliau Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaeth dwyieithog yn eu gwlad eu hunain.