Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fforestydd

fforestydd

Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.

Coed gogledd oer, coed y fforestydd mawr sy'n amgylchynu'r byd ar draws Ewrob a Sgandinafia, draw i Siberia, ac ar draws i Ganada.

Ceir coed derw sy'n cochi - y Quercus rubra a'r Quercus coccinea - mae rhai o'r rhain wedi eu plannu yn ein fforestydd ni i ni gael mymryn o liw.

Ychydig filltiroedd o'r dref ei hun yn Emiriaeth Sharjah mae ardal natur Khor Kalba gydag un o fforestydd mangrove hynaf yr ardal.

Clod i Ti am y tir a'r môr; am ffrwythlonder pridd, amrywiaeth blodau, eu lliwiau a'u persawr; am gadernid coed a golud bywyd y fforestydd.

Ond er syndod i bobol Sweden i gyd, amcangyfrifwyd fod tua chant o'r anifeiliaid hyn bellach yn byw yn fforestydd y wlad a hefyd ar ynysoedd - hynny yw, maent wedi llwyddo i fyw yn wyllt ac i fagu rhai ifainc.

Yr oedd ein ffordd trwy ganol gwlad neilltuol o dlws - yn fryniog, yn neilltuol y rhan gyntaf o'n taith - goediog; nid fforestydd ychwaith, ond llwyni mawrion yma a thraw fel a welir ar barciau boneddigion Prydain.

Wedi iddynt glirio'r fforestydd daeth adfeilion teyrnas gyfan i'r golwg yn llawn o demlau a phlasau; erbyn inni gyrraedd Cambodia yr oedd yn bosibl inni weld ymysg yr adfeilion rai o olygfeydd rhyfeddaf y byd.

Ond cefais y fraint o weld yr haul yn codi'n goch dros fforestydd Gorllewin yr Almaen.