Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fforwm

fforwm

Mae hon yn fforwm i'r sector wirfoddol drafod gyda chynllunwyr gwasanaethau.e.e.Mae Fforwm Plant a Theuluoedd Gwynedd yn mynd o nerth i nerth fel grwp lobio, ynghyd a cheisio clustnodi'r angen am wasanaethau a hyfforddiant nas darperir gan y sector statudol.

Disgwyliwn i'r Cynulliad sefydlu Fforwm Economaidd Democrataidd i ddatblygu ystod eang o bolisïau economaidd er mwyn cryfhau economi ein cymunedau gwledig a threfol a hynny ar sail yr egwyddor o gynaladwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Fforwm i drafod dyfodol y Gymraeg yng nghymunedau sir Gaerfyrddin.

Dylai staff Bwrdd yr laith gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad gan fod yn atebol i'r Cynulliad trwy'r Fforwm laith Ddemocrataidd.

Geisio sefydlu Fforwm Addysg i Gymru i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau digonol Mewn cyfnod pan fo'r Cynghorau newydd yn gyffredinol yn cael eu llesteirio gan fanylion ad-drefnu, mae cynghorwyr Ceredigion yn haeddu clod am geisio gweledigaeth o drefn addysg deg ar gyfer y dyfodol.

Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.

Trafodwyd Fforwm Gwynedd gyda Mr Hughes a Mr Matthews; dywedwyd wrthynt mai digwyddiad blynyddol oedd hwn.

Fforwm Addysg i Gymru Ceredigion Paratowyd dogfen yn rhoi ein gofynion yng nghyd-destun y sir ar gyfer cynhadledd gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, undebau, llywodraethwyr etc.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Cam pwysig ymlaen i gynorthwyo yr ysgolion fyddai sefydlu Fforwm ar y cyd rhwng y pwyllgor addysg a'r llywodraethwyr fel ein bod yntynnu gyda'n gilydd tuag at yr un nod.

Geilw'r Pwyllgor am gadw PDAG yn fforwm ac yn gorff annibynnol ac arno gynrychiolaeth gan wahanol gymunedau Cymru a chan wahanol sectorau'r system addysg yng Nghymru.

Os nad ydy o yn gallu cael y canlyniadau, yna mae'n rhaid ystyried a ddylai rhywun arall fod yn ei le, meddai Siân Thomas o Fforwm Busnesau Bychain.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

Byddai'r Fforwm yn bwydo syniadau i'r Pwyllgor Pwnc yn ogystal â vice versa.

I gefnogi sefydliadau i greu Fforwm Addysg Democrataidd i Gymru i wrthbwyso grym y Quangos.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD AR YR AMGYLCHEDD A AWGRYMIR: Cymryd rhan yn llawn yn Fforwm Amgylchedd Gwynedd a mabwysiadu a gweithredu côd yr Adran ar ymarfer da yn yr amgylchedd.

Dylai'r ymagwedd hon sicrhau cysondeb ag egwyddorion a phwrpas y Cynllun gofal Cymdeithasol trwy gynnwys y Fforwm Cynllun gofal cymdeithasol yn y penderfyniadau ar ddyrannu.

Mae BBC Cymru hefyd wedi sefydlu fforwm sgwrsio o'r enw talkwales i alluogi gwrandawyr a gwylwyr i gyfathrebu am faterion Cymreig.

I sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg fel bod peirianwaith barhaol i gryfhau a hybu datblygiadau newydd a bod yn fforwm i drafod problemau fel swyddi athrawon bro.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Anghenion arbennig: Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys y Fforwm Cludiant, cludiant addysg, cludiant i grwpiau o fewn diffiniad daearyddol, sicrhau cyd-drefnu rhwng gwahanol ffurfiau ar deithio.