Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fforymau

fforymau

Dylid gorfodi Awdurdodau Addysg, Cynllunio, Tai, Hamdden Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori â'r Fforymau Ieuenctid ar faterion perthnasol i anghenion pobl ifanc.

I'r perwyl hwn, dylai'r Cynulliad sefydlu Fforymau Ieuenctid sefydlog ym mhob sir i edrych ar bob penderfyniad o bwys i'w cymunedau lleol.

Ar ôl sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd dylai'r Cynulliad fynd ati i sefydlu Fforymau Cenedlaethol eraill mewn meysydd fel Tai, Iechyd, Gofal, yr Amgylchedd, Trafnidiaeth, yr Economi a.y.b.

Disgwyliwn i'r Cynulliad ddod o hyd i ffyrdd creadigol i annog cyfranogiad pobl Cymru gyfan yn holl brosesau'r Cynulliad gan gynnwys cynnal fforymau lleol i fudiadau pwyso a chynrychiolaeth gymunedol o bob agwedd ar fywyd ein cymunedau.

Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad â phobl cymunedau Cymru yn ôl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.