Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffos

ffos

Disgynnodd yr ordd hefyd ar y ddaear wrth ei ymyl gan agor ffos ddofn fel archoll yn y pridd islaw.

Wrth gloddio'r ffos daeth yr hen frawd ar draws llysywen, cododd hi i'r wyneb a'i chlymu wrth y tennyn marcio.

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Ond o'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, cyrhaeddodd y môr y castell a gor-lenwi'r ffos mewn amrantiad.

Oni bai ei fod yn adnabod pob ffos a phob craig, pob llethr neu wyrad sydyn ar wyneb y tir, byddai ef wedi baglu mae'n siŵr sawl gwaith y nos honno.

'Welsoch chi ffos?

Yno dywedodd TW Jones y byddai ef a'r ASau Cymreig yn parhau i ymladd yn lew "hyd at y Ffos olaf", sef trydydd darlleniad y mesur.

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

Roedd yna ffos o gylch y castell!

Oedd hi werth plygu gwrych, rhoi basic slag, agor ffos?

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Ond mi ddywedaf hyn, Mr Ernest, mai y sbort mwya' gawsoch chi heddiw oedd gweld fy ngheffyl yn torri ei goes, a minnau yn cael fy nhywlu i'r ffos.'

Roedd yr hynaf wrthi'r diwrnod o'r blaen yn codi clamp o gastell a'i addurno â cherrig a gwymon ac yna gwneud ffos o'i gwmpas yn barod i ddal dŵr y môr yn dod i mewn?

Ond wrth frysio yno ar gefn ei fotor beic newydd, ac edrych ar awyren uwch ei ben yr un pryd, syrthiodd i ffos.

Roedd yna hen frawd o'r plwy yn agor ffos lled ddofn mewn cae go wlyb.

Gamlas Las a Ffos y Ddeulyn, Esgair Llyn a Lloches Lewsyn.

Merch o sir Gar hefyd oedd ei fam-gu ar ochr ei dad - o Ffos-y-fron, Bwlchnewydd yn ymyl Caerfyrddin.

Aent cyn belled â chloddio ffos ac adeiladu rhagfur fel y medrent eu datgysylltu eu hunain oddi wrth aelodau eraill y llwyth.

O, na, roedd milord yn trotian yn ôl a blaen i ymyl y dŵr efo'i fwced, yn tywallt ei llond i'r ffos ac yn methu'n lân â deall pam nad oedd y ffos yn llenwi.