Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffosydd

ffosydd

I gadw'r gelyn a'r bwystfilod allan, codid cloddiau cedyrn o bridd a cherrig o gwmpas y ddinas, a ffosydd tu hwnt i'r cloddiau; Byddai i bob amddiffynfa ddwy ran, un at gadw'r anifeiliaid a choed tan a phethau eraill, ac un arall gadarnach i'r bobl fyw ynddi.

Yn ei gerdd 'Arras' mae John Gruffydd Jones yn mynd â ni yn ôl i ffosydd y Rhyfel Mawr, a gwelwn eto nad yw'r meirw wedi marw.

Er na chyhoeddwyd pryddest 'Mab y Bwthyn' gan Cynan hyd Eisteddfod Caernarfon ym 1921, mae'n rhoi hanes yr hyn a ddigwyddodd i filwr diniwed o L^yn o'r cyfnod pan ymuna â'r fyddin hyd at ei ymateb i'r gyflafan yn ffosydd Ffrainc.

Dull newydd o ryfela yn datblygu wrth i ffosydd gael eu gosod ar hyd y ffin rhwng y ddwy ochr.

Yr oedd yr hen Owain wedi bod yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi bod yn gorwedd ac yn ymladd yn llaid y ffosydd yn Ffrainc.

Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.

Gan mai heddychwyr cadarn oedd tad a mam Waldo, yn anochel fe ddatblygai hi'n ddadl boeth ynghylch heddychiaeth, gyda'r hen ewythr yn dal y dylid gyrru'r holl heddychwyr i'r ffosydd yn Ffrainc.