Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffraethineb

ffraethineb

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy'n tarfu ar gychwyn un o'i ganeuon.

Mi gewch 'rwy'n siwr, bwff o chwerthin wrth ddarllen am ei hiwmor, a'i ffraethineb, y pethau doniol hynny sy'n perthyn i Charles a dim ond Charles.

Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy'n taro'r hoelen ar ei phen.

Ond crwtyn serchog oedd Wil a phawb yn ei hoffi a chael blas ar ei ffraethineb annisgwyl, ac yr oedd yn ffefryn mawr gan Dic.

Ond, rwy'n berffaith siwr o un peth : mae ffraethineb Lloyd y Cwm wedi aros yn y cof lawer yn hwy nag aml i bregeth a glywais na chynt na chwedyn.

, gan gyfeirio at Wil, a phawb yn chwerthin a chyfrannu mymryn o ffraethineb at y sgwrs, a Dic yn rhoi hergwd i ysgwydd Wil, a hwnnw'n gwenu heb falio dim.

At etyb William Roberts: 'Dewis y drwg a gwybod wrth ei ddewis mai'r drwg ydy o.' Serch heb ei ddifwyno gan euogrwydd sydd yn Merch Gwern Hywel, a'r awdur yn ei bortreadu gyda hynawsedd a ffraethineb.

Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos at ei galon.

Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith.

Nid heb achos y dywedir fod Thomas Jones Dinbych yn 'anwesu Dafydd ap Gwilym a Lancelot Andrews!' Y mae'r ffraethineb hefyd yn lleddfu rhywfaint ar rym y serch: nid y rhyferthwy o serch meddwol y canodd y beirdd rhamantaidd iddo sydd yma o gwbl.

Roedd ganddo ffraethineb hoffus.