Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrengig

ffrengig

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol yn Lloegr oedd Burke, ac mewn adwaith yn erbyn y chwyldroad Ffrengig y lluniwyd egwyddorion ceidwadaeth.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Dangosir yr un diddordeb mewn darllen dwylo; somatomaneg (y gallu i ddarllen arwyddion ar y corff dynol); cardiau tarrot; a Deja vu (term Ffrengig yn golygu 'gwelwyd eisoes').

Mae ef newydd fod ym Mharis i ddweud wrth bawb ei fod yn mynd yn ôl i Gymru i hawlio ei deitl a'i ; diroedd fel Tywysog 'Ond pam ddylai'r milwyr Ffrengig hyn ymladd dros Owain, gofynnwn.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Yn ei lyfr ar y 'Brenin Arthur' y mae'r awdur Llydewig/Ffrengig Jean Markale wedi galw sylw at y ffaith ddigon hynod nad yw'r un o'r testunau Lladin cynnar na chanoloesol yn defnyddio'r ffurf Artorius am Arthur.

Adwaith yn erbyn syniadau Rousseau ac athroniaeth y Chwyldroad Ffrengig yw ffydd boliticaidd Charles Maurras yntau.

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

Ei groeso i'r Chwyldro Ffrengig a barodd i Edmund Burke sgrifennu ei Reflections.

Ar wahân i ffilmiau Saesneg mor wahanol i'w gilydd â My Beautiful Landrette a Howard's End a sawl un arall, fe fyddai rhai'n dadlau mai'r ffilm Ffrengig, Manon des Sources, oedd un o ffilmiau mawr yr wythdegau mewn unrhyw iaith, ac yr oedd honno'n ffilm hynod o lenyddol.

'Moire' roedd dyn yr Emporiwm wedi galw'r peth, ac roedd hi wedi credu y byddai Niclas yn hoffi'r cyffyrddiad bach Ffrengig yn yr enw.

Arni hi yr oedd y bai i gyd, arni hi a'r dymer wyllt honno a etifeddodd gan hynafiaid Ffrengig ei thad, meddai ei mam.

Fe'i trodd Hector yn ffranciau Ffrengig, a theimlo'n eithaf gwalch wrth wthio'r arian papur i'w waled at hynny a oedd yno eisoes.

Mae'r ddau'n ymladd byth a beunydd yn Ffrainc am fod y Brenin Edward III o Loegr yn mynnu mai fe biau tiroedd arbennig yn Normandi, Anjou ac Aquitaine yn Ffrainc.' 'A beth am y milwyr Ffrengig cyffredin?' 'Maen nhw'n meddwl bod Owain yn filwr gwych.

Bosib mai dechraur cychwyn oedd y ffrae Eingl Ffrengig yna gyda John Prescott yn cael ei gyhuddo o fod yn rhy macho.

Cynigiwyd ein bod yn gofyn i Angharad Hughes drefnu'r bwyd (bara Ffrengig a phate ynghyd a gwin di-alcohol), a'n bod hefyd yn gwahodd un o'n haelodau i chwarae'r delyn.

Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.

Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.

Peth arall 'sy'n ffaith', fodd bynnag, yw eu bod ill dau'n argyhoeddedig mai melltith fu effeithiau gwleidyddol a diwylliannol y Chwyldro Ffrengig ar Ffrainc ac ar Ewrop.

Yr unig gymorth i'r bobl hyn oedd pabell wen fechan a godwyd gan elusen Ffrengig, M—decins du Monde.

Ond fan yna yr oedd ef yn llercian ymhlith y praidd, fel gwenci neu lygoden Ffrengig enfawr - er mai ci bychan bach oedd ef o ran ffurf.

Dilynodd ef yn elfennol ddigon y dull Ffrengig a nododd doriad pob edefyn yn ffurfiol: ei chwedl ef hyd yma; cyfranc Geraint hyd yma, llyma weithion fal ydd heliawdd Arthur y carw; eu chwedl hwynt hyd yna.