Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffres

ffres

Rhagor o ddogni, dim ond gwerth swllt (5c) o gig ffres i bob person yr wythnos.

Ceisiwch osgoi saws cyfoethog a dewiswch salad ffrwythau neu ffrwythau ffres fel melysfwyd.

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Bwydwr (cnau) Cneuon goco ffres

Os medrwn ei hadu a chael glaw yn fuan, yna gallwn ddisgwyl porfa ffres at yr hydref ac i'r wyn bach yn y gwanwyn.

Cynllun deg pwynt Bwytewch ddigon o ffrwythau a llysiau ffres.

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Roedd adeiladau hen, prydferth, y dref yn adlewyrchu haul y bore ac roedd arogleuon deniadol coffi ffres yn yr aer.

Erthygl Saunders Lewis sy'n sefyll allan o blith y tair, er eu bod oll yn rhyfeddol o ffres o'u cymharu a'r rhan fwyaf o newyddiaduraeth wleidyddol hanner cant oed.

Erbyn iddi hi ymuno ag e, roedd wedi gorffen ei frecwast ond cynigiodd ffonio am goffi ffres.

Yn wir, ymddengys y defnyddir mwyfwy o bapur yn sgîl dyfodiad Technoleg Wybodaeth, a hynny'n aml yn bapur ffres.

I'w wneud rhaid oedd cymryd sglodion ffres o'r dderwen a'u golchi â dŵr rhedegog nes bod y rhinwedd wedi ei olchi allan ohonynt.

Doedd neb gyda Mark Hughes i newid patrwm a dod a choese ffres.

Roedd bathodyn Lithuania'n lliwgar-ffres ar ddillad swyddogion y maes awyr - yn ôl y drefn flaenoriaethau draddodiadol mewn sefyllfaoedd o'r fath, roedd iwnifforms ar ben y rhestr.

Yn agor efo riff gitar ac unwaith y mae'r sacsoffon yn cicio, mae'r melodi yn gofiadwy iawn ac yn cylchdroi yn eich pen - catchy, ffres a melodig.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Fe ddaethon ni ar draws pedair menyw a'u plant yn ymolchi mewn ffynnon - yr unig gyflenwad o ddŵr ffres yn y pentre'.

Cawn ein sboelio efo saith o ganeuon newydd, ffres, gan y grwp o Benygroes.

Gwneud un siwrnai ddechrau'r mis a wnawn i'r arch-farchnad a cheisio cael digon o fwyd i bara am y mis, oni bai am fwydydd ffres fel bara a llefrith a chig.

Doedd Delme Williams, yr asgellwr o Gastell Nedd, ddim yn y tîm ddydd Sadwrn felly bydd ei goese fe yn ddigon ffres heno.

Yn ystod y flwyddyn cynhyrchodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC raglen gyffrous yn ymgorffori elfennau ffres a dyfeisgar iawn.

Dewisodd Mrs Wendy Francis flodau ffres ar gyfer ei harddangosiadau.

Oedd llawer teulu arall yn gwneud yr un peth cofiwch, a felly, picnic mawr neu "banquete% gredaf i oedd y peth, gan fod pob math o jams a theisennau a llaeth ffres a hufen tew i'w gael yno.

Mae cwmni%au naill ai'n dibynnu ar yr hen ffefrynnau neu, mewn ymdrech i gael rhywbeth ffres, yncael gafael ar ddrama 'newydd' efallai nad yw'n werth ei llwyfannu.

Ond cloasid glowyr Trimsaran maes naw mis ynghynt, wedi iddynt ballu derbyn rhestr newydd o daliadau gan y cwmni am fwyngloddio gwythi%en ffres.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Ac mae nhw'n dal yn ffres ac yn fyw.

Er mawr syndod i fi, pan gyrhaeddes i roedd y bustych yn byta'n braf ar wair ffres, a'r rhastal yn hanner llawn.

Mae BBC CHOICE Wales wedi cynnig cyfle i dimau cynhyrchu fod yn wreiddiol, yn ffres ac yn greadigol.