Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffresio

ffresio

Mi fydd hi'n ffresio cyn bo hir," proffwyda gwraig leol gan ddefnyddio'r gair Cymraeg lleol am oeri - ond mae'n anodd credu hynny mewn gwres sy'n lladdfa i'r aelodau o'r côr sy'n gwisgo ponchos.

Ac, yn wir, mae hi yn ffresio a phobl yn dechrau tynnu eu cotiau yn dynnach amdanynt a'r gwisgwyr ponchos yn y côr yn diolch am gynhesrwydd y dilledyn.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.