Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffriddoedd

ffriddoedd

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.