Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffroenau

ffroenau

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

Byddai'n olwg ddigrif ar y ffroenau diamynedd wedi eu powdro â blawd.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.

Gydag arogl arbennig yn cyrraedd y ffroenau tybiais fod yr Iddewon yn iawn.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Pontiodd fflam o dân o ffroenau'r dreigiau a saethu'n groes i'w wybren gan godi mwy o ofn arnyn nhw.

y mae beiros seianeid yn fy ffroenau a llyffantod ffyrnig yn cnoi fy sannau...

'Roedd dail trwchus y coed wedi troi lliw yma ac acw yn barod, a llanwyd ei ffroenau gan leithder hydref.

Pan straffagliais allan o'r dŵr fel chwiadan wlyb a drewdod y mwd yn fy ffroenau, yn y pellter, newydd ymddangos o'r coed, sleifiau Talfan a'i griw, a'i wn yn hongian dros ei ysgwydd.

Codai aroglau awr y trai i'w ffroenau a chrychodd ei thrwyn, mewn diflastod.

Os nac 'ych chi wedi anadlu naws a sawr y glowr yn eich ffroenau chi, os nac ydach chi yn gwybod fel yr oedd yr hen dipiau glo yn chwysu yn yr ha', fedrwch chi ddim sgrit`ennu amdano." Roedd chwaer y dramodydd, Letitia Harcombe, a gymerodd ran y butain, wedi dweud ei hun tod y ddrama' n agos at y gwir a i bod yn gwybod am deuluoedd a oedd mewn sefyllfa debyg.

Daw'r ymwelydd allan o'r siambr gydag arogl mwg a thamprwydd yn ei ffroenau, a sylwa hefyd ar y siapiau rhyfedd a naddwyd i mewn i'r cerrig.

Ac er y brys yr wy'n cofio hyd heddiw am y chwa bersawrus a lanwodd fy ffroenau.

Yng nghanol yr holl symud a'r bwrlwm a'r gwahanol arogleuon a oedd yn codi o'r lle, tybiais fod fy ffroenau yn chwarae tric â mi.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.