Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrog

ffrog

Gwisgais fy ffrog siyrsi winau - rhag ofn i Emli feddwl mai dim ond y siwt a wisgwn i ar y prom oedd yn ffit i'w gweld - a chardigan o liw mwstard, a phar newydd o sanau neilon.

Rhyfeddais fwy o weld Miss Lloyd yn prynu'r ffrog werdd gyda bendith edmygus Modryb Lisi.

Mi â i i nôl y ffrog ar fy ffordd adre.

'Mi fasa'r ffrog werdd 'na'n dy siwtio di i'r dim.

I fynd lawr i'r dre bu hi'n marchogaeth y tu ôl i Rowland hyd yma, ond heno roedd y ffrog felfed las o dan ei chlogyn merino yn rhy gwmpasog iddi fedru rhannu ceffyl â'i gūr yn gyffyrddus.

Gydai ffrog wedii thorri o faner y Ddraig Goch, llwyddodd i ddod ag apêl secsi i'r Cynulliad tran cyfleu neges ddifrifol.

Edrychodd Eira ac `Elen ar ei ffrog hardd a'r cyrls melyn taclus ar ei phen.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Fe'i gwelaf hi'n awr, dynes fawr, afrosgo, ei ffrog ddu wedi'i lluchio'n fler amdani o dan y brat rhosynnau dilewys a groesai ei bronnau hael.

Ond mi g'ledais fy nghalon, a chau botymau'r ffrog i'r gwddf.

Mae ei ffrog gotwm ysgafn yn esmwyth i'r cyffyrddiad, ac mae 'na gymaint o hapusrwydd ynof.

Ond os oedd honno'n disgwyl i Miss Lloyd brynu ffrog iddi hi hefyd, cael ei siomi a gafodd, a dim ond Miss Lloyd a gariai fag papur yn ol at y tacsi ar ddiwedd y dydd.

Adroddodd papur newydd mai cynllun ffrog Versace drawiadol a wisgwyd gan Miss Hurley yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun lliwgar ar fysus yr ardal.

Roedd hi'n ôl yn y bwthyn yn Nhraeth Coch, yn ei ffrog gingham fioled a gwyn newydd, y ffrog a'r gwddw isel a'r belt llydan metalig o gwmpas y wasg a'r fflowns yn y sgert yn dod dros y pengliniau.

Gyda'i gwallt melyn, trefnus, ei gwisg o siwt las tywyll a'r 'brooch' ac yna ffrog las ysgafnach, y briefcase.

Y fersiwn frenhinol, wrywaidd, o ffrog Liz Hurley fel petai.

Dynes dywyll a thew ac amhrydweddol oedd y fenyw-ddweud-ffortiwn a ffrog laes hir amdani fel sydd i fod.