Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrwyth

ffrwyth

Bydd hyn yn cadw'r ffrwyth rhag cael ei faeddu gan bridd ar ôl cawodydd o law.

Drwy'r glaw, daeth dau ddyn yn cario calabash, sef llestr wedi'i wneud o ffrwyth coeden, a dodwyd hi ynghanol yr ystafell.

Ffrwyth partneriaeth rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrosiect y Canterbury Tales, dan arweiniad y Dr Peter Robinson o Brifysgol De Montfort, yw'r CD-ROM.

Ffrwyth ymchwil mewn maes hollol wahanol ddaeth â resait llwyddiannus i'r adwy.

Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg.

Abwyd i'r fwyalchen a'i thebyg yw cnwd ffrwyth y ddraenen wen er enghraifft, ond nid felly yr hedyn yn ei ganol.

Ffrwyth ymchwil synfawr a dychymyg eofn wedi esgor ar iaith ddi-dderbyn-wyneb fydd honno.

Dibwys yw'r mwyafrif ohonynt ac yn ffrwyth teipio diofal.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Llewelyn Williams o Goleg y Trwyn Pres ar y Ficer Prichard), a chymaint o wir hanes yr amser fu sydd i'w gael mewn cymdeithas fel hon wrth wrandaw ffrwyth ymchwiliadau rhai eraill; a phan feddylier fod tro pawb ohonom i chwilio drosto'i hun, ni raid petruso dywedyd fod dibenion gorau'r gymdeithas yn cael eu hateb yn llwyr".

Tybed betho oedd ffrwyth yr wythnos honno?

Os yn nhywyllwch y pridd y mae'r gwreiddiau, eto fe ddaw eu ffrwyth i'r amlwg mewn gweithredoedd neu mewn rhodiad ac ymarweddiad.

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

A ffrwyth hyn oedd y miloedd pobl ar hyd a lled y wlad a allai annerch cynulleidfa fawr mewn capel, eglwys a neuadd mewn Cymraeg graenus.

Mae pob ffrwyth sydd yn aros ar frigau'r llwyn yn codi ei werth y tu hwnt i reswm gyda threigl y misoedd llwm.

Mae diddordeb yn y gweithgareddau cenedlaethol yn cynyddu; mae'r stondinau yn yr Eisteddfodau a'r Sioe yn denu sylw ac yn dwyn ffrwyth.

Ar y cyfan, bu 1999/2000 yn flwyddyn dda i BBC Cymru ar rwydweithiau'r DG, wrth i lawer o'r gwaith datblygu a'r buddsoddiad mewn hyfforddiant a thalent ddwyn ffrwyth gyda llwyth o gomisiynau sydd wedi denu sylwadau ffafriol, ac ymateb da gan y gynulleidfa.

Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.

Un noson, ar ol llaetho'n o drwm ar ffroth ffrwyth yr heiddan yn y Spite Inn, ni bu deuawd hapusach yn mynd am eu cartra na Rondol a Begw.

Bu buddsoddiad sylweddol mewn datblygu drama, a sefydlwyd y posibilrwydd o ddenu comisiynau teledu, er y bydd yn ddiweddarach ym 1999 cyn i hyn ddechrau dwyn ffrwyth ar y sgrîn.

Petai'r ymweliad wedi dwyn ffrwyth byddai diben sôn wrtho.

Rhaid derbyn fod amryw o'r straeon hyn yn ffrwyth dychymyg y CIA yn ystod ymgyrch o gam-wybodaeth yn erbyn Gadaffi.

Un arall o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cyflwyno ffrwyth ymchwil perthnasol i sylw'r athrawon.

Dyfrhau yn y bore sydd orau a gellir bwydo trwy ddwr, gan ddilyn y cyfarwyddyd sydd ar ` y pecyn neu'r botel yn ofalus, ar ôl i'r sypyn cyntaf o ffrwyth ddechrau blodeuo.

Ac mae hynny'n dechrau dwyn ffrwyth, meddai'r Awdurdod.

Ffrwyth y cwbl yma oedd llwyddo i greu yn Ebeneser awyrgylch gynnes, deuluol.

Trwy'r canrifoedd mae coed, eu dail a'u ffrwyth wedi cynnig meddyginiaeth i ddyn ac anifail.

Mae'r diolch yn bennaf i ffrwyth misoedd o waith rhwng Adran Bolisi Bwrdd yr Iaith a Bill Hicks o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, meddai.

Cyfaddawd yw'r fferm, ffrwyth ei wrthryfel sy'n ei alluogi i gadw wyneb ac ar yr un pryd i ddal ei afael ar ei etifeddiaeth gyfalafol.

Ar y cyfan, bu 1999/2000 yn flwyddyn dda i BBC Cymru ar rwydweithiaur DG, wrth i lawer o'r gwaith datblygu ar buddsoddiad mewn hyfforddiant a thalent ddwyn ffrwyth gyda llwyth o gomisiynau sydd wedi denu sylwadau ffafriol, ac ymateb da gan y gynulleidfa.

Fe fyddai'n siŵr o werthfawrogi ffrwyth ei hymdrech heno yn y dosbarth nos.

Yr un fath gyda'r genedl, y ffurf honno ar gymdeithas sy'n ffrwyth twf hanesyddol.

Eu prif nod yw cyflwyno'r arferion dysgu llwyddiannus a da a: i.welwyd gan athrawon Gwynedd wrth arsylwi ii.gyflwynwyd trwy ffrwyth ymchwil a phrosiectau eraill yn y Gymraeg a'r Saesneg yn y gorffennol, a hynny mewn dull hylaw a hawdd ei stumogi.

Ffrwyth trafodaethau rhwng y ddau, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau, a arweiniodd at sefydlu swydd oedd yn ymgorfforiad o ddyheadau'r ddau gorff.

Mi roddai unrhyw beth am gael ffrwyth i'w fwyta bob dydd ...

Ffrwyth y chwilio yw casglu mai'r ysgolheigion crwydrad a oedd wedi bod yn bont rhwng y Trwbadwriaid a Dafydd ap Gwilym.

Y mae celfyddyd ysgrifennu a chreu unrhyw fath o lenyddiaeth yn ffrwyth hyfforddiant o fath gwahanol i'r hyn a geid yn yr ysgol Sul.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Ffrwyth yr ysgaw yw'r ffefryn fodd bynnag, a maint y cnwd o'r perlau duon sydd yn penderfynu yn aml faint o fynd fydd ar aeron eraill yr hydref hwnnw.

Er bod amryw o'r straeon hyn, mae'n debyg, yn ffrwyth dychymyg y CIA, mae ei ymddygiad yn ddigon rhyfedd .

Bydd y goeden afal yn dwyn ffrwyth cynyddol bob blwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn union fel y bydd Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i'r C.C.T.A. fabwysiadu cynllun 5 mlynedd i greu Coleg Cymraeg i Sir Gaerfyrddin.

Y drefn arferol, felly, yw bod pobl Libya yn cael caniatâd i fod yn berchen ar eu tai a'u ceir - ar yr amod nad ydyn nhw'n dwyn ffrwyth llafur pobl eraill.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Ond roedd yn rhaid ennill ugain o docynnau ar gyfer un ffrwyth, a doedd fawr o obaith i neb wneud hynny.

Erbyn Nadolig y flwyddyn honno roedd yr hedyn wedi dwyn ffrwyth, ac O Law i Law wedi ei chyhoeddi.

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.

Ac er nad oedd gan y Canghellor Kohl fawr o amynedd â'r 'twristaid cydwybod' a ddenwyd yno yn sgil hyn, roedd hi'n yrnddangos fod y gweithredu'n dwyn ffrwyth.

Felly, o'r diwedd, roedd ymdrechion HR Jones yn dechrau dwyn ffrwyth.

Wrth iddi yfed yr hylif trofannol arall-fydol oedd yn gymysgedd anghredadwy o bob ffrwyth yn y jyngl, digwyddodd trawsnewidiad gwyrthiol.

Bu buddsoddiad sylweddol ym maes datblygu drama, a sefydlwyd y posibilrwydd o ddenu comisiynau teledu, er y bydd yn ddiweddarach ym 1999 cyn i hyn ddechrau dwyn ffrwyth.

mae'r penderfyniad i benodi cynhyrchydd newydd gyda phrofiad helaeth o operâu sebon teledu rhwydwaith yn dwyn ffrwyth, ac mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at welliannau pellach i straeon, cymeriadau a thechnegau cynhyrchu dros y flwyddyn nesaf.

A da o beth oedd casglu at ei gilydd ffrwyth gwaith ymchwil Dr Isaac Thomas, Dr G.Aled Williams ac eraill yn yr erthygl ar "Yr Esgob Morgan a'r Beibl Cymraeg Cyntaf".

Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.

Roedd y cyfarfod ei hun yn dipyn o achlysur - yn ffrwyth bron i flwyddyn o lythyru, e-bostio a ffonio wrth geisio cysylltu â chynrychiolydd democrataidd (eto'n rhyfedd o ddirgel) trigolion Gorllewin Casnewydd.

Mae Eglwys Glenwood yn parhau i blannu, i dyfu ac i ddwyn ffrwyth.

Ffrwyth yr arfer anfad hwn, medd Celynin, yw "plant- ordderch", hunan-laddiadau, a llofruddiaeth.

Wedi'r cyfan ffrwyth y profiad yma arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad yn y lle cyntaf.

Mae amryw ohonynt yn hoff o ffrwyth y ffawydd a'r wernen, hadau dant y llew a mwyar o bob math.

Petai'r Cynulliad a'r sefydliadau eraill yn methu, mae ymgyrchwyr iaith yn hyderus y byddai'r Wyddeleg yn dal i ffynnu, oherwydd bod y fan y maent wedi'i gyrraedd nawr yn ffrwyth blynyddoedd lawer o waith nad oes modd ei ddadwneud.

Aberglasney: A Garden Lost in Time - William Wilkins Gwelwyd ffrwyth y ddaear o wahanol fath yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, cyfres ardderchog a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer BBC Cymru a ddangoswyd hefyd ar y rhwydwaith.

Fel y gwaredodd Duw Israel o'r Aifft â gwaed ŵyn y pasg yn amddiffynfa i'w phlant rhag angau, gwaed Crist bellach sy'n cadw'r ffyddloniaid rhag rhaib y farwolaeth sy'n ffrwyth pechod.

'Mi ddo i fory i drio ennill tocynnau ffrwyth,' addawodd.

(Yn yr uned YSGRIFENNU III cyflwynir ffrwyth ymchwil athrawon Awdurdod Avon a oedd yn gysylltiedig a'r Prosiect Ysgrifennu Cenedlaethol.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.