Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrynt

ffrynt

Cais sydd gen i ar i bob cwmni neu fusnes gysylltu a mi yn Sain fel y gallwn ddangos ffrynt unedig gref yn hyn o beth.

Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.

Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.

Ond pan oedd hi wedi cau'r drws ffrynt yn glep ar brotestiadau Emyr a chychwyn ar ei thaith, roedd Carol wedi disgwyl - nage, wedi cynllunio - y byddai Guto'n siŵr o syrthio i drwmgwsg y munud y byddai'r car ar y draffordd.

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

Felly o lwch y Nationalistische Front (y Ffrynt Genedlaethol) cododd y Sozial revolutiona%re Arbeiterfront (Ffrynt Cymdeithasol Chwyldroadol y Gweithwyr).

Elen: Yr haul ar ffenestri'r ffrynt trwy'r prynhawn, a'r prisgau wrth gefn-tŷ yn torri'r gwynt rhew .

Ond o bryd i'w gilydd, wrth dân y rŵm ffrynt yn Nhy'r Ysgol, Coedybryn, 'rwy'n meddwl iddo adrodd wrthyf holl hanes ei fywyd.

Bellach mae'r holl bobl oedd yn ffurfio unrhyw fath o 'ffrynt' dros y Gymraeg yn ystod yr 80au wedi penderfynu mai'r ffordd orau o barhau â'r frwydr yw trwy geisio dwyn eu darn bach o rym oddi fewn i'r drefn bresennol.

Yna ar hyd y ffordd, a phasio ffrynt yr adeilad mawr, bygythiol yr olwg.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Ond 'na fe, be all e'i wneud yn wyneb eu deddfe Nhw?' Gyda hyn, trodd Mr Williams drwyn y cerbyd i fyny'r rhiw at gartref Dilwyn a bu tawelwch hyd nes iddo stopio y tu allan i ddrws ffrynt Llwyngwern.

Jyst cocpit-ffanbelt-y-ffrynt-lodar-wedi-darfod-a-gorfod-cael-heidro lics-newydd.' mwydrodd Ifor.

Y diweddaraf ydy dwyn blodau o erddi ffrynt rhai o day yn Heol Dewi.

Petai chi'n symud i fyw i dre' Castellnedd rhyw ddydd, mae'n debyg na fyddech chi yn eich cartre' newydd yn hir iawn cyn clywed cnoc ar y drws ffrynt.

Erstalwm iawn yr oedd gan un o feddygon y Blaenau 'ma offer ar ei ddrws ffrynt i hwyluso pobol i alw arno yn oriau mân y bore.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Agorodd y drws ffrynt, safodd ar garreg y drws ac anadlu'r awyr iach.

Gallai'r stiward, o'r bonc islaw, weld ffrynt y twr, ond ni allai weld y tu ôl iddo.

Mae meddwl am gael eich lladd, nid ar y lein ffrynt, ynghanol môr o gyhoeddusrwydd, ond yn y dirgel, heb dystion, yn hunllef.

Ebe fe yn y man: "Dyna ni, Der, ni sy'n y ffrynt lein ran." Y mae'r ffrynt lein honno heddiw yn deneuach o lawer hebddo ef.

'Taw er mwyn i mi gael clywed beth sy'n digwydd!' Roedden ni'n tri yn y gegin a nhw'u dau yn yr ystafell ffrynt a chlust Robat John yn fflat ar y drws.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.

Ar ôl i mi ganu cloch drws y ffrynt, agorodd ef, edrych i fyw fy llygaid gyda'r llygaid llym llwyd a feddai, a gofyn, 'A welsoch chi'r Western Mail y bore 'ma?

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.

Eithr pan beidiodd yr ergydion, clywodd lais merch yn sgrechian a dychrynu cymaint nes iddi redeg i ffenestr yr ystafell ffrynt rhag ofn bod rhywun o'r drws nesaf wedi cael damwain.

Yr oedd pawb ar lwgu, ond tra oedd eu mam yn paratoi pryd o fwyd - rhywbeth rhwng te a swper - aeth y plant i gyd allan, croesi'r ardd ffrynt ac i'r cae.

Delweddau eraill - Stee Buscemi yn ymdrochi yn ei faddon y tu ôl i ddrws ffrynt ei fflat flêr, yn ateb y ffôn.

Ychydig wedyn dihangodd eto ond i'r byd mawr disoffa hwnnw y tu draw i'r drws ffrynt y tro hwnnw.