Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffugenw

ffugenw

Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb.

Ein ffugenw oedd "Flotsam and Jetsom" ar ôl deuawd poblogaidd ar y pryd, ond byddai ystyr lythrennol y geiriau yn gywirach disgrifiad ohonom.

Anfonwyd cywaith gan Dic Jones a'i ddosbarth, dan y ffugenw Lleng, i'r gystadleuaeth.

'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol: Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddocâd y ffugenw.

'Roedd ei ffugenw, 'Un wedi iddi fyned yn nos arno', bron yn hwy na'r gerdd ei hun: Tremiaf, mi ganaf i'r gwyll - Myn diaw, y mae yn dywyll!'

Y tebyg yw mai ffugenw oedd y 'Thomas Mathew' hwn, ac mai ei amcan oedd celu'r ffaith mai eiddo Tyndale oedd Testament Newydd y Beibl hwn a'r rhannau o'r Hen nad oeddent wedi eu cymryd o Feibl Coverdale.