Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffwng

ffwng

Cynhyrchir 'aflatoxin' gan ffwng a gall fod yn farwol i adar os bwytant ddigon ohono, - felly cadwch eich llygaid yn agored am y 'Sêl Cymeradwyaeth'.

Yn wir, mae'n bartneriaeth glos iawn gan y treiddia'r ffwng i gelloedd y gwreiddyn a chydfyw am oes â'r planhigyn.

Ac yn bennaf yr adeg hon o'r flwyddyn, byd y synhwyrau, byd yr ogleuon hydrefol y ceisid eu hatgynhyrchu mewn sentiach drud i ddynion: oglau lleithder siarp, mwsog a ffwng a rhedyn.

Math o ffwng meicroscopig yw burum, sy'n tyfu trwy ddatblygu blagur bychain i ffurfio planhigion newydd.

Byddai'r hen ffermwyr yn malu'r garreg-las ac yna yn ei chymysgu â sebon a'i rhoddi ar y crwn (ringworm) sydd yn cael ei achosi gan ffwng.

Mae dau wenwyn yn y ffwng hwn ac mae unrhyw un sy'n bwyta'r ffwng yn cael teimladau brawychus, fel hunllef, bron yn syth.

Rhaid ei fod yn effeithio ar y celloedd yn y corff oedd yn gyfrifol am gynhyrchu gwrthgyrff i'r trychfilyn ei hun ac i drychfilod eraill, boed firws, bacteria neu ffwng.

Mae'n anodd tyfu tegeiriannau oherwydd dibynniaeth y tegeirian ar y ffwng ynghyd â'r amser maith sydd arno ei angen i egino.

Gall y ffwng dderbyn maeth o sylweddau organic marw yn y pridd a'i drosglwyddo i'r tegeirian.

Mae ffwng bach yn tyfu ar y cnydau hyn.

Dibynna ei dwf ar ffwng dinod sy'n byw yn y pridd.