Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffynhonnell

ffynhonnell

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

Oes 'na ddefnydd felly i'r ffurfiau carbon yma, yn enwedig pan fod 'na ffynhonnell weddol rad ohonynt ar y gorwel?

Yn y fangre honno y darganfyddid prif ffynhonnell awdurdod, cadernid ac amddiffyniad.

Y maent wedi bod yn fygythiad i'r papurau lleol traddodiadol mewn rhai ardaloedd, drwy fod yn ffynhonnell newyddion lleol, ac aethan mor bell a ffurfio Cynghrair.

Pe edrychwn i'w ffynhonnell, y mae hwnnw yng nghapel Caersalem.

Crynhoir arwyddocâd y plasty fel ffynhonnell pob gwareiddiad a'r pencenedl fel cynghorwr ac arweinydd doeth yng ngeiriau'r un bardd: 'pennaeth y gwladwriaeth da; pencenedl ...

Ar faterion egwyddorol o bwys, dewisodd newyddiadurwyr fynd i garchar yn hytrach na datgelu ffynhonnell eu gwybodaeth.

Macrocosm o'r teulu unigol ydoedd y llys brenhinol, ffynhonnell pob llywodraeth a threfn.

Coeden fythwyrdd arall sydd yn ffynhonnell hwyr o ffrwythau yw'r eiddaw neu'r iorwg.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Ond pa ffordd bynnag y dee%llir iachawdwriaeth ni welir agwedd drugarog Duw at bechaduriaid fyth fel canlyniad y broses, ond fel ei achos a'i ffynhonnell.

Roedd y goeden wedi tyfu o ffynhonnell popeth a'i changhennau uchaf yn ffurfio'r ffurfafen.

Ffordd arall o osod hyn yw dweud eu bod wedi ei weld sub specie aeternitatis: ond ffordd goeg o'i osod ydyw hon, oni chofir fod y weledigaeth yn cyplysu ag ystad enaid - ystad a all fod yn ffynhonnell y weledigaeth neu a all fod yn ganlyniad iddi - ond ystad na all y sawl a'i meddiannodd neu a feddiannwyd ganddi beidio a'i thrysori uwch law popeth arall.

a chymerwyd y syniad i fyny gyda brwdfrydedd gan rai o'r myfyrwyr Cymreig" Nid oes amheuaeth nad Lleufer Thomas oedd ffynhonnell gwybodaeth RW Jones a T.

Bydd y cynllun hwn yn cymryd lle'r Cynllun Trefol fel ein prif ffynhonnell o gyllid ar gyfer gwaith plant.

Fe gafwyd adroddiad ar genedlaetholdeb yr Iwcraen neu ar Chernobyl, ffynhonnell ymbelydredd defaid gogledd Cymru.

Yr Eglwys oedd prif ffynhonnell celfyddyd weledol Cymru drwy gydol yr Oesoedd Canol.

Ond ar y cyfan nid yw'n nofelwyr hanes yn gweld hanes fel proses, dim ond fel ffynhonnell ar gyfer storiau difyr, gyda'r dieithrwch cyfnod yn ychwanegu rhyw elfen egsotig sy'n ennyn chwilfrydedd.

I Williams, fel i'r Piwritaniaid o'i flaen, dyma ffynhonnell holl fywyd y Cristion wedyn - bod yn un â Christ.

Er mor syml yw hyn, mae casgliad o gatalogau dros gyfnod hir o amser yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a all ddangos pob math o bethau eraill.

mae'r huddygl a gynhyrchir wrth i fflam y gannwyll losgi, neu wrth losgi bensen, yn ffynhonnell bwysig o'r ffwlerenau yma.

Collir hefyd ffynhonnell bwysig o gyfleoedd hyfforddi i'r bobl ifanc.

Cofiwn hefyd mai galwedigaeth ansefydlog oedd y weinidogaeth yn y cyfnod hwn, yn enwedig i'r sawl nad oedd ganddo ffynhonnell arall o incwm i'w gynnal ef a'i deulu.

Nid yw'r BBC yn barod i dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o safbwynt unrhyw broblemau neu golledion a achosir gan arsefydlu RealPlayer yn anghywir o unrhyw ffynhonnell.

Mae hyn yn arbennig o bwysig am fod y Gymdeithas wedi clywed o ffynhonnell ddibynnadwy fod y trefniadau cyfieithu ar gyfer y Cynulliad yn dipyn o draed moch ar hyn o bryd.

Sathrodd yr hyfforddwr yn sydyn ar yr ymholiad caredig hwn am, fy nghyflwr a throdd ffynhonnell ei arian ymaith oddi wrth y posibilrwydd y gallwn ddweud rhywbeth ynglŷn â pham na neidiodd y ceffyl.

Yn ogystal â defnyddio'r gohebwyr lleol fel ffynhonnell, bydd cyfran o bob bwletin yn tarddu o'r adran newyddion ei hun.

Does dim dwywaith nad oedd y fro honno yn un o fannau paradwysaidd y bardd; yn noddfa rhag dyddiau blin ac yn ffynhonnell bodhad arbennig.

tua'r un adeg ag y darganfu Theomemphus ei fod yn 'bechadur', fe ddarganfu Rousseau ei fod yn fab Duw, a Rousseau yn hytrach na Phantycelyn yw ffynhonnell y meddwl diweddaraf yng Nghymru...

Mae'n well gan yr awdur ddiffinio llongddrylliad hanesyddol fel llongddrylliad sy'n cynnwys gwybodaeth o natur hanesyddol na ellir ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Mae'r môr wedi bod yn ffynhonnell ffrwythlon o fwyd i ddynoliaeth dros filoedd o flynyddoedd ac yn y degawdau diweddaraf mae posibiliadau eraill wedi dod i'r fei.

Mae gan bob adran newyddion stôr o wybodaeth wedi ei ddosbarthu'n ofalus dan wahanol benawdau fel ffynhonnell ffeithiau ar amryfal bynciau.

Os nad oes gennym chwedl gyflawn, ysgrifenedig am Drystan, boed honno'n stori frodorol neu'n un wedi ei haddasu o ryw ffynhonnell Ffrangeg, pa dystiolaeth sydd ar ôl i bresenoldeb traddodiad byw am y cariadon yng Nghymru?

Y ffynhonnell wybodaeth orau amdanynt ar y we.

Credir i'r eira, a fu'n gyfrifol am ffurfio capan mor enfawr, ddisgyn o gymylau o fewn atmosffer llawer gwlypach a thewach ei naws na'r atmosffer presennol a chesglir mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol a allai gynhyrchu anwedd-dyfrllyd o'r fath ac i'r un graddau fyddai cefnfor anferth.

Mae'n rhyfedd meddwl pan wneir awgrymiadau fel hyn o ganolfannau ddylai fod yn ddibynnol, iddynt hwy ac eraill fychanu gwerth deilbridd pan ddaeth y syniad o ddefnyddio mawn i fod, gan ddweud fod deilbridd yn ffynhonnell pob math o afiechydon planhigion a phryfetach tra bod mawn yn glir ohonynt!

Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.

Ardal y Peak yw ffynhonnell dŵr Sheffield hefyd ac wrth i syched y ddinas dyfu, felly y tyf y galw am foddi mwy o dir i greu argaeau.

Yr haul yw ffynhonnell holl ynni y pethau hyn, yn blanhigion ac yn anifeiliaid ac yn yr haf mae yna tua dwywaith fwy o ynni yn tywallt dros Gymru nag yn y gaeaf.

Wedi'r cwbl yr oedd swydd esgob - yn enwedig Esgob Tyddewi - neu archddiacon neu ddeon yn gallu bod yn ffynhonnell cryn gyfoeth, ac felly tueddid yn gynyddol i roi'r swyddi hyn yn wobrau i ffefrynnau'r brenin a'r arglwyddi.

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cyffuriau ym mis Tachwedd, creodd yr adran Addysg y gyfres Know Your Poison, sydd wedi derbyn canmoliaeth o sawl ffynhonnell ers hynny am ei thriniaeth realistig o gyffuriau, cyfreithlon ac anghyfreithlon.

Awdurdodau lleol, yr unig gyrff â dyletswydd ystatudol i ailgartrefu'r digartref, yw ein prif ffynhonnell ailgartref o hyd.

Heb drydan, hwn fydd yr unig ffynhonnell.