Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffynonellau

ffynonellau

Amcangyfrifwyd bod hanner miliwn o fenywod y flwyddyn yn dioddef, ond deil y rhan fwyaf ohonynt yn debycach o geisio cymorth o ffynonellau eraill megis Cymorth i Ferched, cyfreithwyr, meddygon teulu ac ati.

Mae uchel swyddogion y llywodraeth wedi rhybuddio fod y wlad yn dychwelwyd i'r cyflwr roedd ynddi yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac mae hyd yn oed Fidel, yn ôl nifer o ffynonellau, wedi mynegi ei bryder am y dyfodol.

Yng Nghymru yr oedd Dafydd ap Gwilym wedi dod i'r amlwg fel bardd sech a bardd natur mwyaf llenyddiaeth Gymraeg ac wedi dod yn bwnc ymchwil i ysgolheigion yn ogystal ag yn un o ffynonellau ysbrydoliaeth y Rhamantiaid, beirdd 'Y Nos, Y Niwl, a'r Ynys', chwedl Mr Alun Llywelyn-Williams.

Gwelwyd hefyd ddylanwad llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc yn treiddio i'r traddodiad Cymraeg, nes bod llenorion yn benthyca naill ai destunau cyfan i'w cyfieithu a'u haddasu ar gyfer cynulleidfa newydd, neu'n codi enwau ac elfennau naratif unigol o'r ffynonellau estron, i'w hymgorffori mewn testunau cyfansawdd.

Maen nhw'n gwrthod dadl yr Eisteddfod fod rhaid cadw'r enw swyddogol er mwyn diogelu statws elusennol y Brifwyl a ffynonellau ariannol.

Gellir olrhain y defnyddiau sydd yn y ffynonellau hyn yn ôl i'r nawfed ganrif, ac yn ôl pob tebyg dipyn yn gynharach, ond nid i'r cyfnod Arthuraidd ei hun.

Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig.

Mewn gwaith yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Brifysgol, yr wyf yn credu ei bod yn deg mynnu fod awduron yn dyfynnu o'r ffynonellau gorau.

Yn yr Historia Brittonum, a gasglwyd ynghyd o amrywiol ffynonellau yn y nawfed ganrif, y ceir yr ymgais hynaf i adrodd am orchestion Arthur mewn paragraff o ryddiaeth.

Yn aml iawn, caiff pobl eu gwahanu oddi wrth lawer o ffynonellau gwybodaeth a chyngor y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Yn y gorffennol tueddwyd i ganolbwyntio ar y berthynas bosibl rhwng y prif ffynonellau hyn yn y Gymraeg a'r rhamantau Ffrangeg neu Eingl- Normaneg.

Yr oedd Waddington yn ymchwiliwr hynod ddygn a defnyddiai ffynonellau nad oedd neb o'i flaen wedi eu trethu wrth astudio gyrfa Penri.

Hefyd mae gennym fynediad i ffynonellau y tu allan i'r BBC, fel asiantaethau newyddion rhyngwladol.

At y ffynonellau hyn yr arferai'r llenorion Cymraeg droi yn rheolaidd i chwilio am ddeunydd stori%ol i ehangu a chyfoethogi eu testunau Arthuraidd.

Datblygu Ysgolion Pentrefol yn Ganolfannau Addysg a Chyfathrebu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu - gan ddenu felly gyllid o ffynonellau hyfforddiant newydd i'w cynnal.

Ceisia'r awdur hefyd dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol, nifer ohonynt yn rhai llenyddol, megis yr Anterliwt, a phob un o'r rhain yn dangos y mod y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu amgylchiadau cymdeithasol y cyfnod ac yn eu dehongli.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Y mae'r llyfr wedi ei seilio ar ymchwil gofalus mewn amrywiaeth o ffynonellau.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Hyn, i raddau, sy'n esbonio'r ymchwil brysur am ffynonellau dylanwadau posibl yn chwarter cyntaf y ganrif hon.

Gan amlaf casglai Williams ei wybodaeth oddi wrth ffynonellau printiedig, gan adlewyrchu syniadau neu ragfarnau a delfrydau cymdeithasol y rhan fwyaf o'i wrandawyr.

Nid yw'r chwiw derwyddol yn amlwg yma, ond yn hytrach, ymchwilydd disgybledig sydd wrthi yn trafod ffynonellau'n ddeallus ac yn eu defnyddio'n fedrus feirniadol yn ddogfennau byw i ddarlunio hanes cymdeithas a'i thiroedd.