Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ficer

ficer

Daeth yn ymwybodol o lais y ficer eto.

'Welwyd dim byd,' cywirodd y ficer ef.

Amneidiodd y ficer ei ben yn feddylgar.

Wedi mynd yno, fe briododd weddw ei ragflaenydd fel ficer, gwr o'r enw Oliver Thomas.

a'r Person neu'r Ficer ...

Mae'r gynulleidfa'n ddigon tene ar y gore, a doedd neb yn teimlo fel edrych ar Madog a chil i lyged bob tro y bydde'r ficer yn pregethu; ond roedd tŵr yr adeilad mewn cyflwr truenus, y glaw'n dod miwn drw'r to mewn manne, a wal y fynwent yn dylle i gyd - a deg mil yw deg mil.

Rhaid oedd cytuno a'r ficer pan ddwedodd e ma rhodd o'r galon oedd hon ac y gellid codi eglwys newydd, bron, gyda'r arian - codi wal newydd sbon o gwmpas y fynwent, a thalu i ddyn am ofalu ar ol y bedde.

Llewelyn Williams o Goleg y Trwyn Pres ar y Ficer Prichard), a chymaint o wir hanes yr amser fu sydd i'w gael mewn cymdeithas fel hon wrth wrandaw ffrwyth ymchwiliadau rhai eraill; a phan feddylier fod tro pawb ohonom i chwilio drosto'i hun, ni raid petruso dywedyd fod dibenion gorau'r gymdeithas yn cael eu hateb yn llwyr".

Dim ond y ficer alle fod wedi dweud hynna heb gal llond pen gen i.

Chwerthin wnes i pan eglurodd y ficer y cymal, ac roedd ynte hefyd yn gwenu, ond medde fe i gloi'r sgwrs.

GWAELEDD: Gofid ychwanegol oedd deall fod y Ficer hefyd wedi cael ei gymryd yn ddiweddarach i Ysbyty Gwynedd, ond yn ffortunus byr fu ei arhosiad yno ac y mae yn awr adref unwaith eto.

Fel ficer gyda'r Eglwys, oes gennych chi gydymdeimlad gyda hwy?

Breuddwyd cas, mae'n debyg.' Daeth golwg gythryblus i lygaid y ficer.

Cawsom ganddo dipyn o hanes ei ficer parchus, y Parchedig Oliver Evans, gŵr yr oeddwn yn gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Llambed.

Ond rwy'n cofio'n iawn beth aeth trwy 'meddwl i wedi i'r ficer fynd.

Byddai'r gwrandawyr yn gwybod ar unwaith wrth glywed 'Morgan Hyderus' yn sôn fod y Cymry'n caru yn y gwely, mewn ffordd mor wahanol i'r Saeson diwair, mai parodi oedd o dystiolaeth William Jones, ficer Nefyn, ac ni allai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r sylwadau ar y Gymanfa Bwnc gan 'Haerllugrwydd Cableddog Troedyraur' (t.

Clywodd y prynwr o Groesoswallt am Oliver Thomas a'i ddarllen, nid hwyrach; a chlywodd y prynwr o Gaerfyrddin, oddi ar dafod ei dad a'i dad-cu, rai o benillion y Ficer Prichard; - ond yn eu gweithiau hwy yr oedd trefn ein lleferydd ar y brawddegau ac ystyron sobr ein byd-bob-dydd i'r geiriau.

'Lwcus eich bod chi wedi galw nawr, ficer,' meddai Marian.

'Mae'r ficer wedi trefnu seremoni bwrw ysbrydion ymaith ar ôl y plygain yfory.' 'Os digwyddith hynny,' meddai Dafydd yn iasol, 'alltudion fyddwn ni, wedi'n condemnio i grwydro drwy'r holl fydysawd eang.

Roedd Seimon ar fin cynnig mynd yn ei lle pan roddodd y ficer ei law ar ei fraich i fynegi ei fod yn dymuno sgwrs ag ef.

Dan gochl y ffugenwau 'Cambro Sacerdos' a 'Ordovicis' yr ymddangosodd y llythyrau bustlaidd hyn, ond gwyddai Ieuan Gwynedd mai ficer Aberdâr oedd y 'Jeroboam rhyfygus a chelwyddog hwn'.

Y ficer oedd yn sefyll ar y trothwy Sut mae e erbyn hyn, Marian?' gofynnodd yn brudd O ficer, dewch i mewn.

Aeth i'r Eglwys a mynd yn gurad, a dwi'n falch o ddweud ei fod wedi bod yn ficer am nifer o flynyddoedd.

Enw prifathro'r Ysgol Ramadeg (oedd heb symud i'w safle bresennol ym Mryn Goodman) oedd William Hathom Mills, brodor o Orton Waterville, ac yn y Cloisters yr oedd y ficer yn byw sef Bulkeley Owen Jones o Gaerhirfryn a'i wraig Fanny o Rydychen.

Jones, Ficer Tregaron, ac Edward Lewis a minnau i fynd ar ddirprwyaeth i Loughborough i weld Cyfarwyddwr Wills & Hepworth, (cyhoeddwyr cyfresi 'Ladybird' sydd mor amrywiol, â'u lluniau lliw, llawn tudalen gyferbyn â phob tudalen o brint.

Ac roedd y ficer, whare teg iddo fe, yn gofalu am bob busnes arall.

Fe gymeres i gyngor y ficer, a cherdded mor ofalus ag iar ar farwor.

Ond ma' rhaid ichi ddod nol nawr am dipyn bach at weddill y wyllys, ac fe ges i'r hanes gan y ficer 'i hunan.

'A' i i wneud cwpaned i chi, ficer.' Cododd hi.

Wnaeth e ddim llawer o lanast, gan i'r ficer 'i glywed e'n brefu am ddeuddeg o'r gloch y nos a'i ollwng e'n rhydd.

Dywedodd ficer cyfagos: '...' .

'Mae wedi bod yn ymladd yn ddewr iawn,' meddai'r ficer.

Yn nwylo medrus Tony Jones, llwyddwyd i greu yr awyrgylch gynhyrfus briodol yn y rhan gyntaf ac i gael tensiwn rhwng y Ficer a gŵr y Tollau yn yr ail ran.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Y canlyniad fu iddo ddechrau paratoi i symud o Rydychen, o'i swydd fel ficer Eglwys Fair ac o'i Gymrodoriaeth yn Orid.

John Aelwyn Roberts, cyn-Ficer Llandegai.

Gwansaethwyd yn yr angladd gan y Parch'n Charles Durke, Robin Williams, Islwyn Evans Treharris (Saron gynt) y Tad Felix Connolly, Ficer Graham Jones, a Byron Davies.

'Beth y'ch chi'n feddwl, ficer?' 'Roedd e'n siarad ag e'i hunan, meddech chi.

Ar ôl iddi fynd o'u clyw, dechreuodd y ficer siarad yn isel.

Ond roedd pawb yn hael'u canmoliaeth i'r cerflunwyr o Lunden - neb yn meddwl y gellid bod wedi llunio rhywbeth mor fyw o garreg; ac fe ddywedodd y ficer, gan gyfeirio at y llyged treiddgar, y bydde fe'n siŵr y bydde o leia un par o lyged ar agor o'r dechre i'r diwedd yn ystod 'i bregethe fe o hyn allan.