Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filiynau

filiynau

Cofier bod yna hylifau eraill sy'n dadelfennu'n araf ond gan fod yn rhaid i'r toddiant biolegol barhau am filoedd o filiynau o flynyddoedd disgwylir i'w sefydlogrwydd fod yn absoliwt.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Yn ugeiniau'r ganrif hon sylweddolwyd bod ein haul ar gyrion ein galaeth, y llwybr llaethog, ac yn un o gannoedd o filiynau o sêr a oedd yn troi o gwmpas ei ganol.

Yn dilyn, fe ddigwydd anghysur i filoedd, onid i filiynau o bobl.

Mae yna hefyd gannoedd o bobol sy'n cael eu haflonyddu gan ysbrydion ac mae yna filiynau sy'n mynd drwy fywyd heb weld na chael unrhyw gyfathrach ag ysbryd na bwgan.

Mewn llun optegol gwelwn belydriad sêr yn bennaf, ond yn y llun pelydrau-X gwelwn allyriad nwyon poeth iawn, ar dymheredd o filiynau o raddau Celsiws.

Gwyddom bellach nad yw ein seren ni (Yr Haul) ond yn un o filiynau o ser sy'n ffurfio galaeth enfawr - Y Llwybr Llaethog.

Byddai'r Sun a'r Express a'r Mail, (sydd, fe gofiwch, yn dweud mai'r Saesneg ddylai fod yn iaith swyddogol Ewrop) y papurau a ddarllenir gan filiynau lawer, yn gwneud eu gorau glas i berswadio pawb i wrthod unrhyw beth "estron".

Mae'r ffaith bod pum mil o filiynau o adar yn mudo o Affrica i Ewrob bob Gwanwyn yn syfrdanol ac yn rhoi gwedd newydd ar y pwnc.

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.