Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filoedd

filoedd

Cofier bod yna hylifau eraill sy'n dadelfennu'n araf ond gan fod yn rhaid i'r toddiant biolegol barhau am filoedd o filiynau o flynyddoedd disgwylir i'w sefydlogrwydd fod yn absoliwt.

Heb wybod hon (neu amrywiad arni) gellid gwastraffu cannoedd o filoedd o bunnoedd bellach.

Gyda'r Chwyldro Diwydiannol llifodd cannoedd o filoedd o Gymry i'r ardaloedd diwydiannol gan ddwyn eu hiaith, eu crefydd a'u gwerthoedd gyda hwy.

`Rydych chi newydd ddringo mynydd dau ddeg dau o filoedd o droedfeddi yn yr Andes yn Periw.

Fel yr aeth yr ugeiniau yn eu blaen taflwyd cannoedd o filoedd ar y dol.

Rhythodd i fyw llygad y gath fel y gwnaeth filoedd o weithiau o'r blaen a rhyfeddodd unwaith yn rhagor at ddawn gynnil y gŵr o'r Eidal.

Yna yng ngwanwyn bob blwyddyn daw miloedd ar filoedd i ymwthio i fyny afonydd Ewrop.

Y dydd y bu+m i yno roedd yno filoedd o blant ysgol - y mae ymweld â Wawel yn rhan fwy neu lai gorfodol o yrfa bob disgybl cyn cyrraedd pymtheg oed.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

Ac y mae miloedd ar filoedd o weithwyr dur a glo a neilon a'r crefftau newydd o bob math na wyddan' nhw ddim bellach hyd yn oed fod yr iaith.

Mae'n debygol bod angen set o filoedd o wahanol broteinau yn sail i weithrediad unrhyw system fiolegol, e.e.

Arnynt, roedd bylbiau bob lliwiau, miloedd ar filoedd ohonynt.

Daeth y gwasanaeth iechyd â chyfnewidiadau sylweddol i filoedd.

Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Gellid gwastraffu amser cannoedd o filoedd o ddysgwyr.

Yn dilyn, fe ddigwydd anghysur i filoedd, onid i filiynau o bobl.

Yr oedd argyhoeddiad cadarn Thomas Charles ynglyn â defnyddio'r Gymraeg yn mynd i ddylanwadu ar gannoedd o filoedd o bobl yn ystod y ganrif.

Os yw Mr Thapa'n llwyddiannus, gall arwain at geisiadau gan filoedd o gyn-Gyrcas eraill.

Yr hyn a olygir yw'r hyn sy'n digwydd pan mae plentyn yn dysgu iaith, sef ei fod yn dyst i filoedd ar filoedd o enghreifftiau o iaith yn cael ei defnyddio i ddibenion ffwythiannol ac ystyrlawn.

Os nad yw'n bosib anfon neges pager neu ddefnyddio'r ffôn symudol yn Gymraeg, mae hynny'n gam â'r miloedd ar filoedd o Gymry ifainc sy'n eu defnyddio.

"Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r cynnig?" "Do, Mr Jenkins." "Mae o'n gynnig arbennig o dda cofiwch, dau gant a deg o filoedd am y tŷ a'r fferm a'r hawliau saethu a physgota.

Ail-gychwyn ymgyrchu gyda'r gweithredoedd mwyaf difrifol yn hanes y Gymdeithas gyda difrod o ddegau o filoedd o bunnau i fastiau teledu ym Mhlaenplwyf ac yn Lloegr.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Yn y llall, mae'r dyffryndir araul, heulog fel petai filoedd o droedfeddi yn is na'i chwe mil uwch lefel y mor: 'chwe mil o droedfeddi y tu hwnt i Ddyn ac Amser', chwedl Nietzsche; 'Brodir uwch brad yr oes', i fenthyg geiriau JM Edwards am ddarn o Geredigion.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

Fe'i gwelwyd yn Ethiopia yn y chweched ganrif ac fe achosodd filoedd o farwolaethau yn yr Amerig yn y bymthegfed ganrif.

At hynny, roedd cyfle i fwynhau awyrgylch Krako/ w heb fod yno filoedd ar filoedd o dwristiaid, ac i gerdded mynyddoedd y Tatra heb fod sgi%wyr fel morgrug hyd y lle.

Ac yr oedd yn addysg arbenigol mewn pynciau a oedd o ddiddordeb ysol i ddegau o filoedd o bobl, a phynciau o ran hynny a oedd yn cyffwrdd ag ansawdd bywyd a thynged pawb.

Rydym fel tîm yn mwynhau cystadlu'n fawr, a gyda gwobrau o filoedd o ddoleri roedd yn dipyn o abwyd.

Gall astudiaeth o baill o'r mawn ddangos inni yn union sut blanhigion dyfai mewn gwahanol gynefinoedd filoedd o flynyddoedd yn ôl (gw.

Parhaodd hyn trwy gydol y rhyfel, ond gyda hyn o ddirywiad yn y sefyllfa: perswadiwyd glowyr Cymru i fynd i'r lluoedd arfog wrth yr ugeiniau o filoedd a chymerwyd eu lle gan Saeson a mewnfudwyr eraill.

Wrth edrych am fwy o amser ac yn fanylach, daw cannoedd ar filoedd o ser i'r golwg.

Yn un peth buont yn foddion i agor pyrth llenyddiaeth Gymraeg i filoedd o bobl a phlant.

Mae'r môr wedi bod yn ffynhonnell ffrwythlon o fwyd i ddynoliaeth dros filoedd o flynyddoedd ac yn y degawdau diweddaraf mae posibiliadau eraill wedi dod i'r fei.

Miloedd ar filoedd ohonyn nhw'n llenwi pob twll a chornel o'r Ddinas.

I'r genhedlaeth a oedd yn cofio erchylltra'r gyfundrefn a alltudiodd filoedd o garcharorion am droseddau mawr a man, roedd sibrwd yr enw Botany Bay yn ddigon i greu hunllef.

Diolch yn fawr i Sioned Elin a Branwen Nicholas am gludo'r neges ar ein rhan ni ac ar ran y miloedd ar filoedd arwyddodd y ddeiseb.

Fe ddeue â gwaith i filoedd ar filoedd o bobol - y mwyafrif ohonyn nhw'n bobol dduon, a mi fydde hynnyn bwysig iawn.

Nid oes angen ailadrodd eu hanes yma felly, ond rhaid pwysleisio un agwedd o'r gyfundrefn ddieflig a greodd gymaint o greulondeb a thristwch i filoedd o'r rhai a alltudiwyd.

Ni ddylid gadael i ddynion a merched farw yn yr anialwch, nac i gannoedd o filoedd o ddynion, merched a phlant diniwed gael eu lladd a'u niweidio.

Dros ddeng mlynedd ar hugain o olrhain hanes lleol fe ddarllenais filoedd o gyhoeddiadau o'r un natur.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Yr oedden nhw'n cynaeafu cnau y goeden Cacao filoedd lawer o flynyddoedd cyn i Mr Cadbury drio'n gwneud ni i gyd yn Ffrŝt an Nyt Cesus a chodi ei deml yn Bournville.

Hon oedd gwlad Evita Pero/ n, creulondeb y juntas milwrol, Rhyfel y Malvinas, chwyddiant blynyddol o filoedd y cant, tlodi a diweithdra.

Ond mae'n hen hen stori; mae'n digwydd i filoedd o bobl, o hyd ac o hyd, ac mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn ddigon aeddfed ac anhunanol i dderbyn y sefyllfa, a gwneud y gorau o'r gwaethaf.

Nid nepell o ysblander y farchnad y mae un o ardaloedd tlotaf y ddinas, lle mae degau o filoedd o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn cartrefi pridd.