Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

firws

firws

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Yn amlwg mae'r firws hwn yn un peryglus iawn a heintiad ganddo'n gyfystyr â dedfryd o farwolaeth i fwyafrif helaeth y cleifion.

Firws yw'r achos.

Nid yw'r firws yn gwahaniaethu rhwng pobl mae'n hollol ddemocratig!

Darganfod y firws a achosai AIDS.

Credwn fod gennyf wrthsafiad cryf i'r firws.

Rhaid ei fod yn effeithio ar y celloedd yn y corff oedd yn gyfrifol am gynhyrchu gwrthgyrff i'r trychfilyn ei hun ac i drychfilod eraill, boed firws, bacteria neu ffwng.

Firws arbennig yw'r drwgweithredwr, un tebyg i'r firws sy'n achosi Brech yr Iâr ...

A rhai yn gymysglyd eu meddwl am fod y firws wedi effeithio ar yr ymennydd.

Bellach, mae'r firws wedi lledaenu i bob rhan o'r byd bron.

Gall unrhyw fath o gancr fywiogi'r firws ac achosi'r dolur ond wrth gwrs rhaid i'r firws fod yn bresennol cyn y gall hynny ddigwydd.

Fel yr awgrymwyd uchod, y mae'n bosibl fod y firws FID, neu HIV, yn endemig yng Nghanolbarth yr Affrig ers blynyddoedd, ond heb ymddangos fel petai'n peri afiechyd difrifol yn y boblogaeth gysefin.