Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

flasus

flasus

Yr oedd yn wirioneddol flasus, a hyd yn oed y foment hon gallaf weld Ginger a John Thomas, eu cegau'n orlawn a'u hwynebau'n bochio, yn fy llongyfarch ar fy medr fel cogydd.

Yr un fwyaf egr lC amrwd ei bygythiad a'i hanogaeth ydyw Ltais y Priodfab Howell Davies, lle traethir yn ebydllon am of nadwyaeth uœern, ac yna am erfyniad y Mab am le yn y galon; ond mewn print, ymddengys ei dannod a'i dyhead yn hynod denau.' O'u cym~ru ~ hon, mor aeddfed, mor rhesymegol, mor flasus ydyw pregethau Rowland !

Roedded nhw wedi cael trafferth efo llygod y gaeaf cynt, a chawsai nythaid ohonynt wledd Nadolig flasus: degau o sanau gwlân.

Brysiem adref wedyn am bythefnos o wyliau gan ddawnsio'n hapus, wedi anghofio'n llwyr am Fwgan y Foty, yr oren a'r afal yn flasus iawn a'r melysion wedi diflannu ers meitin.

meddai wrthi ei hun, ac o, oedd, - roedd pryd o rawn haidd yn syth o'r cae yn flasus dros ben hefyd." "O, mi wnes i fwynhau'r chwedl yna, hen ŵr," meddai un o'r genethod.

Mae i chwi groeso calon, yn siŵr." "Mae hi'n drît i Anti Lw, on'd tydi, Anti?" "Mae gŵydd mor flasus, wrth gwrs," atebodd y foneddiges honno dipyn yn fisi, "ond mae tyrci'n fwy tendar.