Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

flewyn

flewyn

Ond roedd yr iaith a ddefnyddiodd i gyfleu ei sylwadau beirniadol yn nodweddiadol ddi-flewyn-ar-dafod, yn debyg i bawb o'i gyfoedion o'r un dosbarth.

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Nid oedd flewyn o'i le ar ei gwallt hyd yn oed wrth iddi droi a throsi.

Yn ei ffordd ddiymhongar ond di-flewyn-ar- dafod, fe siaradodd am ei gwaith yn yr ardal lle nad oedd dim cyflenwad o ddŵr glân na charthffosiaeth.

Mae hi'n gân di-flewyn ar dafod, yn sicr, gan fod ynddi regfeydd cyson.

Nid oedd yn dasg anodd profi ffolineb yr ensyniadau a gallai ddweud heb flewyn ar ei dafod fod y Methodistiaid yn gwbl deyrngar i gyfansoddiad Prydain ac i'r Eglwys Sefydledig.

Goruchwyliwr y gwersyll oedd gŵr di-flewyn-ar-dafod o'r enw Ismail Krief.

Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.

Fe roddai darlun fel hwn flewyn o chwaeth i gegin lom Nefoedd y Niwl a thestun siarad am fisoedd i werin ddiniwed Bol y Mynydd.

Yr oedd Jacob yn olygydd craff ei lygad a main ei glust, ac nid âi dim o bwys heibio heb iddo dynnu sylw ato, a rhoi ei farn arno, heb flewyn ar ei dafod.

Dadleuai Paul am bynciau fel hyn yn ddifalais ond heb flewyn ar ei dafod.

Byddai hynny'n gyson â dadleuon addysgol y Dirprwywyr, yn arbennig ddadleuon y mwyaf di-flewyn-ar-dafod ohonynt, J.

Dychymyg a rhamant eraill roddodd fod i'r gred mai o wlith trwm bore o Fai yr epilient, ac eto credai eraill mai o flewyn hir cynffon ceffyl y deuent i'r byd.

''Da chi'n gynnas 'nghariad i?' 'Ydw Nyrs, diolch i chi.' 'Tydi o'n beth bach digon o ryfeddod.' 'Ydi, debyg,' atebodd Kate flewyn yn swil.

Felly ma' hi 'di mynd yno 'rioed.' Yna, mentrodd flewyn o wamalrwydd.

Er gwaethaf ei Ffrangeg di-flewyn-ardafod a'i Saesneg clapiog, mae wedi ennill calon yr etholwyr y tu allan i Que/ bec.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.