Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

flinedig

flinedig

Syllu'n reit flinedig ar bawb a cherdded at yr amserlen.

Roedd gwres y diwrnod wedi fy lladd yn lân ac roeddwn i'n flinedig ofnadwy .

Roedden nhw wedi teithio'r holl ffordd o Lundain yn y car, a theimlai'r pedwar dipyn yn flinedig.

A pha mor flinedig ydoedd.

Ond mae problemau gan Wrecsam oherwydd bod Edwards a Sam ar eu ffordd nôl o Trinidad - a byddan nhw'n flinedig.

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Dringodd yn flinedig i fyny'r stepiau gan gludo siwrnai o ddwr berwedig, wedi oeri, i'w ganlyn.

Ac un tro yr oedd yn eistedd yn flinedig wrth erchwyn ei gwely, ac fe hepiodd ef am ychydig o funudau.

Safodd Gwyn gan agor ei geg a rhwbio ei lygaid yn flinedig.

Roeddwn ar fin anobeithio'n llwyr pan gododd y meindar yn flinedig a mwmian rhywbeth am yr amser prin a gâi yng nghwmni ei deulu.

Byddin fawr, flinedig o rywle ymhell, bell i ffwrdd.

Cawsom fwy o eira yn ystod y nos ac yr oedd haenen go dda ohono dros bobman erbyn y bore a brigau'r coed yn edrych yn flinedig dan bwysau'r gwymon gwyn.

Dywedodd hefyd fod golwg flinedig ar y milwyr ac nad oedd ganddynt lawer o awydd wynebu ymladd yn erbyn y brodorion ar y llechweddau.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.

Yn flinedig aeth lawr y grisiau i holi unwaith eto.