Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

foddi

foddi

Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.

Yn y diwedd yr oedd ymlyniad Bedwyr wrth fethod ac wrth y gwir yn drech na'i awydd i blesio: ar y weiarles, dysgodd foddi pobl mewn dŵr cynnes, chwedl Tom Jones Llanuwchllyn.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Y rhaglen yn diweddu'n negyddol gyda bygythiad y Llywodraeth i foddi Cwm Tryweryn.

Fydd dim iws i chi fynd wedi iddo foddi!' Cychod a chychwyr oedd o'm cwmpas bob dydd, a chwch wedi i 'Nhad ei wneud oedd un o'r teganau cyntaf a gefais.Fel bron bawb o'r dynion lleol, 'roedd gan fy Nhad gwch, a chofiaf yn dda am Elizabeth fy chwaer a minnau yn hwylio efo fo.

Amcan y cwrdd oedd ystyried cynllun arall a alluogai Lerpwl i gael y dwr heb foddi cartrefi.

Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Penderfynodd Cyngor Llŷn y blynyddoedd rheini, cyn iddo gael ei foddi yn Nwyfor, fod angen un cynllun cynhwysfawr ar gyfer y dosbarth cyfan a dewiswyd Llyn Cwmstradllyn fel prif gronfa.

'Mi fydd gen ti ddigon o gwmpeini i foddi yn bydd?' meddai hithau.

Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu.

Mrs Thatcher yn dweud fod perygl i ddiwylliant gael ei foddi gan ddylanwad estroniaid.

Roeddem ar Iwybr y rhewlif fu'n crafu a rhwygo'i ffordd yn ara deg o Gwm Idwal i foddi ei hun yn y brif rewlif yn Nant Ffrancon.

Dymunai i'r ddaear ei lyncu a'r môr lifo drosto a'i foddi.

serch hynny, yr oedd robert griffith yn gwybod fod joseph wedi marw trwy foddi yn un o afonydd mawr america.

Yn union wedi i Caradog gyrraedd diogelwch, dechreuodd yr hollt gau gan foddi sŵn ubain y corachod.

Ardal y Peak yw ffynhonnell dŵr Sheffield hefyd ac wrth i syched y ddinas dyfu, felly y tyf y galw am foddi mwy o dir i greu argaeau.

Darllen amdano yn y wasg oedd yr wybodaeth gyntaf a gafodd teuluoedd y Cwm am benderfyniad Dinas Lerpwl i foddi eu cartrefi a'u capel er mwyn creu cronfa enfawr o ddŵr i ddiwallu galw diwydiant Lerpwl, glannau Merswy a rhannau o Gaer am fwy o ddŵr.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.

Yn anffodus, mae llais Alex yn cael ei foddi ar brydiau gan yr holl offerynnau a hynny'n tueddu i amharu ychydig ar y gwrando.

Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.