Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fodlon

fodlon

Trueni na chafon nhw gyfle, achos oedd y gynulleidfa yn dwlu arnon ni, yn enwedig yn Ne Cymru." Bu'r grŵp yn llwyddiannus iawn, ond bu gwrthdaro gan nad oedd Bobby yn fodlon i'r merched briodi...

Yn anffodus, fodd bynnag, rwy'n cael yr argraff nad yw'r rhan fwyaf yn fodlon rhoi cyfle i grwp hip hop fel y Tystion ac ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd o'r fath yn newid cyn bo hir.

'Mi ddeudson nhw na fyddech chi'n fodlon ...

Buasai chwaraewyr 1981 yn fodlon ar berfformiad neithiwr wrth i Abertawe sgorio chwe gôl - ond o flaen torf dila.

Yma, doedd labeli cyfleus fel chwith a de ddim yn gwneud llawer o synnwyr; un o'r meini prawf oedd eich agwedd at y farchnad rydd - pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd.

Daw'r bygythiad wrth i gwmni Alchemy a dynnodd eu cynnig nhw'n ôl i brynu Rover ddydd Gwener ddweud eu bod yn fodlon ailddechrau trafod gyda BMW.

mae'r brasder yn eu cyrff yn creu cemegau syn eu gwneud yn fodlon ar eu byd.

Yr un gallu a oedd wedi condemnio'r iaith ag oedd yn rhoi'r gwobrau uchaf i'r sawl a oedd yn fodlon ei gwanychu.

Os nad ydych chi'n fodlon gwneud hynny, ddylech chi ddim bod yn y busnes.

"Pwy sy'n fodlon dod?

"Mae rhai yn fodlon rhoi cyfle i ni, ond mae llawer iawn o rai eraill sydd ddim.

Mae'r Pencawr yn fodlon ildio'i ferch os llwydda Arthur i gyflawni pob gwrhydri unigol angenrheidiol ar ran Culhwch, ac mae'n sylweddoli y bydd raid iddo ildio'i fywyd yn ogystal.

Cawsom gymeradwyaeth dda ac roedd pawb yn fodlon.

Ni fyddai modd disgwyl i genedl felly fod yn fodlon addoli'r Groegiaid paganaidd fel patrwm o wareiddiad a phrydferthwch.

Mae yna filiwn o bobol wedi archebu tocynnau o flaen llaw, meddai, ac mae yna fwy o bobol yn fodlon ar beth sydd i'w weld yn y Dôm nac yn unrhyw atyniad arall ym Mhrydain.

Ni fyddai dreifwyr yr SSB (tripiau) yn fodlon datgelu eu gwybodaeth i'r un o'r dreifwyr eraill.

WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.

Gallwn aros yno am hydion yn berffaith fodlon ar fy myd.

Chaiff Cadi Pierce byth roi ei throed i lawr yn Nhyddyn Bach.' Wrth iddi adael, pan ddaeth Catherine Pierce i gymryd ei lle, gofynnodd John iddi a fyddai hi'n fodlon bod yn dyst petai rhywbeth yn digwydd iddo.

Cyn bo hir roedd y rhan fwyaf o'r ddiadell yn ddiogel rhag yr eira a sgubai dros y wlad, ond doedd Ivan ddim yn fodlon.

Cyngor y Ddinas sydd berchen yr adeilad ond ymddengys bellach nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau arfaethedig.

* pa mor bell ydych chi'n fodlon teithio i'ch lleoliad?

Treulio'r bore i gloddio geudy newydd yn yr ardd, a phawb yn fodlon ar berffeithrwydd y gwaith.

'Wel be?' meddai PC Llong 'Wel wyt ti'n fodlon coelio rþan na laddodd Vatilan mo Huws Parsli.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

Bu hefyd yn casglu rhai o ddagrau ei wraig þ 'ond dim ond pan oedd hi'n fodlon,' meddai, gan ychwanegu þ 'Awn i ddim yn agos ati fel arall, rhag ofn mai fi oedd yn gyfrifol am y dagrau.'

Y gyfrinach, meddai ef, yw synhwyro ar amrantiad beth yw'r pris isaf mae gwerthwr yn fodlon ei dderbyn heb ddangos iddo ef beth yw'r pris uchaf ydych chi'n fodlon ei dalu.

Mae'r Cyngor yn fodlon ar y ffordd y mae BBC Choice Wales wedi datblygu.

Wrth wylio'i lein yn y dw^r teimlai'n fodlon braf.

Pan oeddwn yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl, gofynnwyd i mi a fyddwn yn fodlon sgrifennu am fy argraffiadau o fywyd yn yr Almaen heddiw.

Cofiwch, dydyn ni ddim yn angylion o bell ffordd, ond rydyn ni'n fodlon ac yn barod i drio'n gorau.

Mae S4C yn fodlon iawn ar gynnig Gwasg Carreg Gwalch ac yn edrych ymlaen at weld cynnyrch o safon uchel yn ymddangos yn y siopau cyn hir.

'Doedd Karen ddim yn fodlon o gwbl i fyw fel 'roedd ei mam yn dymuno iddi wneud - gadawodd yr ysgol cyn gorffen ei lefel A gan fynd i weithio i gaffi Meic Pierce.

Mae'r Cyngor yn fodlon bod BBC Cymru wedi camu ymlaen yn erbyn yr amcanion a bennwyd ar gyfer 1998/99.

Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.

Mae'r myfyrwyr yn fodlon dysgu ac wrth eu boddau gyda hanesion am Gymru a Phrydain.

Ond nid oedd y garfan yn y mudiad a dueddai tuag at Eglwys Rufain yn fodlon ystyried Pusey fel eu harweinydd.

Ni fyddai yn fodlon i ni dorri blodau.

* Swyddfa mewn ardal Gymraeg ei hiath, er mwyn bod o fewn cyrraedd hawdd i bobol sydd am gwyno ynglŷn ag annhegwch - "Fydd pobol ddim yn fodlon ffonio Caerdydd," meddai, "oherwydd y teimlad o bellter."

Gofynnodd i mi a fuaswn yn fodlon dod yn ôl bore trannoeth i fynd dros y frawddeg gyda hi jest cyn iddi fynd i'r neuadd.

Ond doedd Israel ddim yn fodlon derbyn hyn a dywedodd America, os mai dyma oedd y sefyllfa, y bydden nhw'n gwrthwynebu hefyd.

Rhannodd yr eiddo, gymaint ag ydoedd, cyn dyfod y dyddiau blin, ond arhosodd Phil yn annibynnol i'r diwedd, ac yn fodlon ar y defnydd a oedd ynddo ef ei hun.

Ffoniodd Mr Yang i ofyn imi a fyddwn i'n fodlon cael fy holi ar y teledu.

'Mae o wedi dangos y tymor yma bod o'n fodlon rhoi ei arian lle mae ei geg o.

Ond nid yw Mr Wynn Thomas yn fodlon derbyn hyn.

yn awr wedi gofyn i'r buddsoddwyr i gadarnhau eu bod yn fodlon buddsoddi'r arian gyda Cwmni Cig Arfon Cyf.

Ond am ba hyd y byddai'r wlad yn fodlon diodde'r poen?

Fe ddywedson nhw hefyd na fyddai neb yn fodlon gofyn i'w chwaer actio rhan y butain - yn un o'r jôcs theatrig gorau, fe wnaeth Kitchener Davies hynny, gan gymryd rhan y pwdryn ei hun a rhoi rhan ei wraig i neb llai na Kate Roberts.

Ond 'rwy'n siwr y byddai ef yn fodlon ar y cynulliad oedd yno, oherwydd yr oedd y rhai a alwodd ef yn 'fy mhobl' yn ei gân Preseli yn bresennol.

Doedd he ddim yn fodlon sefyll yn ei hunfan, ond roedd yn neidio i fyny ac i lawr, yn rhedeg ato ac yna'n neidio ymlaen, yn union fel ci sydd wrth ei fodd o gael cychwyn am dro.

Yna camodd yn ei hôl yn fodlon a chychwyn ar ei thruth.

Fe gewch chi fynd i Bridgetown i siopa gyda Meri, Ydych chi'n fodlon ar hynny?" "Ydw," atebodd hi'n gwta heb edrych arno.

Fyddi Rick yn fodlon?

'Fe ddwedon nhw wrthon ni ddeg diwnod yn ôl, gan fod cynifer o gemau 'da ni ar ôl 'tasan ni'n cael hyd i gae 'basan nhw'n fodlon i ni chwarae fanno.

Roedd Twm yn fodlon gwneud unrhywbeth am ychydig arian cwrw yn ei boced:

'Fyddet ti ddim yn fodlon ffeirio?

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?

Byddai fy mam yn dweud wrthyf fel y pwyswyd ar fy nain i fynd i'r Eidal i gael ei hyfforddi yno, ond nid oedd ei rhieni'n fodlon.

A fyddai Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr ysgol neu'r ysgol gyfun leol yn fodlon estyn help-llaw i chi wneud cuddfan bwrpasol er mwyn gwylio adar?

Nid oedd Del yn fodlon i'r gath drilliw fynd allan o'i golwg o gwbl.

Dywed y Cyngor erbyn hyn nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau ac y byddai sefydlu canolfan o'r fath, yn difetha'r ardal.

Bu'r Almaen yn fodlon diarddel sofraniaeth y Deutschmark i hybu'r Ewro, ond mae'r gair 'ffederaliaeth' yn peri pryder yn Ffrainc.

Doedd hi ddim rhyw fodlon iawn chwaith - deud nad oedd hi ddim digon cynnas o hyd i ni feddwl 'drochi, ond mi gytunodd i ni fynd, wrth bod Mrs Robaits, Cae Hen yn mynd â ni.

Ond nid oedd y Cymry a'r beirdd yn fodlon gadael i'w harwr farw.

Nid oeddwn i'n teimlo'n fodlon i hyn.

Ychydig iawn o ddefnydd sydd wedi dod o'r darganfyddiadau hyn, ond yn ffodus mae gwledydd yn fodlon ariannu rhywbeth sy'n rhan o'n diwylliant.

'Mae Mr Puw yn fodlon eich gweld chi rwan.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Neu ynteu'r ffaith ei fod yn fodlon gwneud ffþl ohono'i hun?

Ychwanegodd nad oedd yn hollol fodlon fod trefi mawrion Lloegr yn gwneud dim namyn cynnig rhyw gydnabyddiaeth fechan yn unig i Gymru am rodd mor amrhisiadwy.

Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.

Dangos Mathew Tomos yn marw'n serennaidd fodlon a wneir beth bynnag, fel pe i gymeradwyo'i fodolaeth ddibrotest.

Teimlai'n bur fodlon arno'i hun a brygowthai am y cytundeb yr oedd ar fin ei arwyddo gyda Border Holdings wrth ei wraig, gan ychwanegu y byddai'n filiwnydd cyn diwedd yr haf.

Roedd y ddau am gael ei gweld fel gwladweinwyr gofalus oedd hefyd yn fodlon mentro.

Doedd 'Nhad ddim yn fodlon inni chwara pêl-droed, os wyt ti'n cofio..." "Cofio?

Dim ond 5 pryddest a anfonwyd i gystadleuaeth y Goron, ac nid oedd y beirniaid yn llwyr fodlon ar y bryddest a wobrwywyd.

Ond mae'n ymddangos bod sawl un hyderus yn byw yng Nghwmderi gan bod digon o'r cymeriadau'n fodlon diosg eu dillad er budd eu busnes.

Ond nid yw tŷ Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tŷ Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig.

Ond nid oedd y person arall yn fodlon siarad ag ef.

Ond 'doedd Mam ddim yn fodlon, wasi.

Roedd yn siarad â chynulleidfa fodlon a deallus a pharod i gytuno, er bod ambell un, mae'n siwr, yn ystyried bod ymchwiliad pellach yn ddianghenraid, gan mor ddigwestiwn oedd y ffeithiau eisoes yn ymddangos.

Doedd Luned ddim yn fodlon dod i'r seremoni, ond roedd pawb yn deall hynny, ac fe gafwyd Sais oedd wedi symud i bentre Blaen-pant i wneud hynny, achos wedi'r cyfan, ma' rhaid ichi gal bobol go iawn i neud pethe fel hyn.

Byddai'n ddigon hawdd imi fod yn fodlon ar fy stad segur a stelcian yn fy nghadair ddydd a nos.

Yn awr, fel ag ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae arnom angen pobl sy'n fodlon gweithio a chreu cyfoeth i'r Almaen gyfan.

Pan ddaw'r newid, bydd y bobl yn llawenhau wrth dderbyn y nwyddau materol hynny y bydd America yn fodlon eu hallforio unwaith eto.

Ychydig oedd yn fodlon rhoi eu pwt ar bapur ond bu'n destun trafod ymhlith amryw gan gynnwys un dosbarth Ysgol Sul.

Rydw i'n fodlon anghofio amdano ond peidiwch, da chi â gwneud sioe o'ch balchder chi.

Byddai Modryb Lisi'n difetha pob sbri, a chaniatau y byddai hi'n fodlon dod, ac roedd hynny'n gwestiwn gen i.

Roedd Lingen yn berffaith fodlon cydnabod gorchest ryfeddol yr ysgol Sul.

Buom cyn hynny yn fodlon ar stori%au byrion.

Rwyt ti'n fodlon cyfadda hynny o'r diwadd.

A ydym yn fodlon ei wynebu?

Y cwbl ddwedwn i, os daw perchnogion newydd i'r clwb, go brin y bydden nhw'n fodlon parchu'r cytundeb hwnnw.

Ond edrychai Modryb yn fodlon braf, ac ar ôl gweu dwy neu dair modfedd, aeth i glwydo'n gynnar.

Nid oedd Glyndŵr yn fodlon rhoi ei gefnogaeth heb fargeinio, ac amlinellir y fargen yn Llythyr Pennal.

Cefais deirawr fodlon yn ei gwmni.

Rwy'n gobeithio eu bod nhw'n fodlon erbyn hyn ein bod ni yn o lew o barod i gael ein derbyn yn aelodau llawn o eglwys Crist.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.

Roedd Nain a Taid yn byw ym Maes Barcer, Caernarfon, ac yn fodlon imi aros gyda nhw ond yn 12 oed doedd gen i ddim llais yn y peth a mynd efo fy Mam a Nhad i Awstralia fu raid.