Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fodoli

fodoli

Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng cenedlaetholdeb, imperialaeth o thotalitariaeth, er cydnabod y gallant oll weithiau gyd- fodoli yn yr un wlad.

Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.

Sawl gwas fferm (os yw'n dal i fodoli) sy'n plygu gwrych yn lle defnyddio fflêl?

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Ac er mwyn i'r Gymraeg ddod fwyfwy'n rhan naturiol o fywyd yng Nghymru, mae angen iddi fodoli fel iaith sy'n cael ei defnyddio'n gyson gan bobl yn eu bywyd beunyddiol: mewn gwaith a hamdden, yn ogystal ag wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat.

Oherwydd hyn, cesglir ei bod yn rhaid i fywyd fodoli oddi mewn i doddiant.

Ni allai ein byd modern ychwaith fodoli heb afonydd.

Mae Densil John yn meddwl bod mwy o ymwybyddiaeth o broblemau y digartref erbyn hyn ond mae'r problemau'n dal i fodoli: "Mae Caerdydd yn ddinas sy'n benthyg ei hun i ddatblygiad ond pwy sy'n mynd i ddod i le sydd a llwyth o bobl yn crwydro'r strydoedd yn aml yn chwil?

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Iddo ef, ni allai unrhyw lenyddiaeth fodoli yn annibynnlo ar lenyddiaethau eraill oni bai ei bod yn perthyn i genedl neilltuol a'i hiaith a'i thraddodiadau ei hun.

Gall cenedl fodoli heb wladwriaeth.

Gall rhai bacteria fodoli trwy adweithiau anaerobig di-ocsigen, ond nid yw'r rhain yn gallu cynhyrchu egni i gynnal planhigion ac anifeiliaid cymhleth.

Ond, mae eu goleuni wedi teithio am gyfnod mor hir cyn ein cyrraedd fel na allwn fod yn sicr, wrth edrych arnynt, a ydynt yn dal i fodoli ai peidio.

Felly, ni all organebau byw fodoli ar ffurf nwyon, oherwydd molecylau gweddol syml yw nwyon, ac os anweddir unrhyw gyfansoddyn cymhleth trwy ei wresogi, bydd yn dadelfennu.