Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fodryb

fodryb

Chwaer garedig ac anwylaf Ronie a modryb ffeind David, Ann, Joana a Margy a hen fodryb gariadus Sarah.

"Mi glywaist fi'n sôn, mae'n debyg," ebr efô, toc, "am fodryb y misus acw - Anti Lw, chwedi hitha?" "Do.

Cyrraedd Frisco yn ddiogel i groeso mawr gan ei fodryb a oedd yn byw yn y dref, a daeth llawer o'i ffrindiau i'r llong.

Be ydi'r pwynt iddyn nhw berffeithio'r System a chymryd blynyddoedd i ddyfeisio peiriannau sy'n arbed yr holl amser 'da chi'n ei gymryd i lenwi siec, os ydach chi'n mynnu dod â'ch hen fodryb naw-deg-rwbath allan efo chi i ddewis bloda?

Beth amser yn ôl roedd hyd yn oed wedi clywed ei fodryb Luned yn dweud wrth ei fam, "Ma' Guto chi'n mynd i fod yn fachgen golygus, on'd yw e?'

Mae'n debyg ei bod wedi newid ei thaid yn nain yn y nofel oherwydd bod hen wragedd o'r math yna yn elfen o bwys yn ei chymdeithas (sylwer ar y pwyslais ar ei nain a'i hen fodryb yn Y Lon Wen), ac hefyd fel bod Jane Gruffydd yn gallu ymuniaethu a hi.

Erbyn iddynt gyrraedd y man ddiarffordd, fodd bynnag, doedd y car na'r carped na'r hen fodryb ddim yno.

Yna am dri o'r gloch - y Brenin Sior V yn cyfarch ei ddeiliaid, ac Ifan a'i dad a'i fam, ei fodryb Lydia a minnau yn gwrando'n ddistaw fel llygod.Drwy ein plentyndod hapus treuliodd Ifan, Eric a minnau y rhan fwyaf o'n hamser yn chwarae, un ai ar lan y mor neu ar lan afon Soch.

Ond un noson, tarawyd yr hen fodryb yn ddifrifol wael, ac ymhen yr awr yr oedd hi wedi marw.

Beth bynnag, chlywyd dim byth am yr hen fodryb, a wnes innau ddim meddwl ar y pryd ofyn i'r dyn oedd hi wedi gadael 'wyllys ai peidio.

'Beth am ofyn i dy fodryb ddŵad hefyd?'

Roedd ganddo bâr ifanc newydd briodi yn gymdogion, ac yr oedd gan y gūr hen fodryb gefnog a ddeuai i aros hefo nhw ar brydiau, ac yr oedd yn amlwg fod yna ddisgwyliadau mawr ar ei hôl.

Cerdd wedi'i sylfaenu ar wrthgyferbyniad yw hon eto, a'r gwir yw fod "ffeiraid llwyd' Peate yn gymaint Fodryb Sali ag oedd Brawd Llwyd Dafydd ap Gwilym a Williams Parry.

Roedd y pâr ifanc wrth gwrs yn llawn galar a thrallod, ond hefyd yn ddigon ymarferol eu meddyliau i sylweddoli fod rhaid cael yr hen fodryb adref iw chladdu, gan wybod am yr holl drafferthion cyfreithiol a swyddogol fyddai hynny yn ei olygu mewn lle fel Sbaen.