Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fol

fol

Ni fagodd fol ei gyfoedion, a gallai roi dau dro am un i fechgyn ysgol.

Gorweddai Robat ar wastad ei gefn yn ei wely a'i ddwy law dros ei fol.

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

Sythodd ei gefn nes bod ei grys yn barod i hollti a dangos ei fol anferth.

Y bore canlynol cafodd Dulles boen sydyn yn ei fol; cafodd operasiwn a darganfuwyd canser yn y coluddyn mawr.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Ond roedd y chwilen ddr wedi cael llond ei fol ar fod yn atebol i rai islaw ei sylw; er bod y rhain yn ôl pob golwg yn ddigon pwysig i gael mynediad i'r castell ac yntau ddim.

Tynnodd fol afal a phwt o gortyn o boced ei drwsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth.

Yr oedd yna lun plentyn mewn sgert neu drywsus pen glin a sana beic a thamishantar yn gorwedd ar ei fol ar lawr yn darllen ar gornel isaf cas glas y gyfrol a adwaenwn i o Nedw, Tegla Davies.

Gŵr Mrs Dixon yn ein cludo'n ôl, dyn clên ond mae wedi twchu gormod - ei fol bron yn cyffwrdd â'r olwyn ddreifio.

Ni chafodd pob mân greadur sydd am hel ei fol ym môn y clawdd ei dwyllo gan y coed.

Yr oedd gwacter yn ei fol.

gwyliodd y tri ef yn cropian ar ei fol ar hyd y gangen, a rhaid oedd edmygu ei ddewrder.

Wedi rhyw ddeugain niwrnod, mwy neu lai, deorodd yn alefin bach a'i fwyd mewn sach dan ei fol.

"Ond mi gicia i'r dŵr mor galed ag y medra i." Wrth lwc, siarc oedd newydd gael llond ei fol oedd yn llercian yno, fel llong danfor dawel dan y lli.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Nid anodd oedd rhoi dau a dau wrth ei gilydd a gyda lwc cai ychwaneg o brawf o fol ei gamera.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta, a dweud wrthyf, Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.

Bu'n torri'i fol eisiau ci ers oesoedd.

Y peth nesaf a wyddai roedd o ar ei fol a phwysau mawr yn ei ddal yn sownd.