Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

folcanig

folcanig

Yn ôl yr arbenigwyr, credir i actifedd folcanig oresgyn y blaned o bryd i'w gilydd, gyda phob actifedd yn parhau am rhyw filiwn o flynyddoedd ar y tro.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Ond ar Santorini tywod du, folcanig, sydd dan eich traed ar y traethau - ond wrth ichi blymio dan wyneb y dwr, a'ch snorcel a'ch masg am eich pen, mae'r pysgod amryliw i'w gweld yn eglur mewn dwr glân a'i lesni eang yn ymestyn ymhell o'ch blaen.

Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan.

Craig galed, folcanig na ychwanegodd fawr o faeth i'r pridd.

Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.

Craig folcanig yw hon eto, dolerite y tro yma a goleddodd yn golofnau hecsagonal.