Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fonedd

fonedd

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Disgwylid i'r cwrs addysg gynhyrchu to o fonedd a symbylid gan safonau moesol uchel.

Mewn cyfres o erthyglau i'r Tyst ar Fonedd Dyn' aeth ati i amddiffyn syniadau Tom Nefyn am ymgnawdoliad ar dir esblygiad gan ddal ar y cyfle yr un pryd i amlinellu'r hyn a olygai 'traddodiad' iddo yntau:

Cawn drafod ymhlygiadau hynafiaethol hwnnw yn nes ymlaen oherwydd ni allai ddianc oddi wrth y dulliau a ddefnyddiai ei gyd-fonedd o edrych ar hanes.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Cytundeb tebyg a adlewyrchir mewn llinell megis 'Dau fonedd a dwf uniawn' a'r llinell rymus honno am y ddau o fewn eu plasty 'yn porthi holl Gymru'.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.