Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

forwyn

forwyn

Pwysig iawn hefyd oedd cwlt y Forwyn Fair a'r saint, a ystyrid yn gyfryngwyr (ychwanegol at Grist) rhwng dyn a Duw.

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

A go brin y bydd y dosbarth canol Cymraeg yn rhuthro i gynghori eu merched i fod yn forwyn.

Anfonir Edern i Gaerllion yn enw Geraint i wneud iawn am sarhad y corrach i forwyn Gwenhwyfar, ac yna yn eu tro fe gyrraidd Geraint ac Enid hwythau.

Hawliai Israel fod Duw wedi'i dewis o blith holl genhedloedd y ddaear yn forwyn iddo, yn genedl etholedig.

Ond does wiw ichi holi beth yn union y mae'r lluniau yn ei olygu, oherwydd ni chlywodd y gofalwyr erioed am y Drindod, y Forwyn Fair, y Geni Gwyrthiol, y Swper Olaf ac yn y blaen.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Tra'r oedd y santes ei hunan yn forwyn ddilychwin a gysegrodd ei gwyryfdod i Grist, yr oedd hefyd yn hyrwyddo cariad cnawdol.

Dro arall yn dod ar draws cragen fregus cranc y traeth, neu bwrs y for forwyn a'r trysor pennaf ganddynt fydd gwalc ddi fefl.

Nid oedd ond fy Nhad ac Ann y forwyn i wneud bwyd.

Yno hefyd yr oedd ei mam Jane Roberts, ynghyd a Laura Edwards y forwyn a phedwar yn lletya, sef: Harry Hornsby, o Leamington oedd yn gweithio yn y banc; Thomas Evans o Landdwyn, bugail; Alun ac Aneurin Lloyd o Lanelwy, un yn dwrne a'r llall yn y banc.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

Cydweithredai meistr a gwas, ac o'r un bwrdd y byddai'r feistres a'r forwyn yn bwyta'u prydau.

Cedwir symudiad y darn trwy gyfrwng saith berf arall sydd yn cynnwys dau gyfnewid o ran person, o Robin i'r forwyn, ac yna i'r feistres, a sawl cyfnewid o ran ansawdd: 'Cymrodd', 'Deallodd', 'ymddigiodd',

Mi roedd yna bedair merch o Malaysia yn gweddi%o y tu allan i'r eglwys o flaen y Forwyn Fair.

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Bwydir yr ysgol Gymraeg gan bedair ysgol gynradd, dwy yn y Rhondda Fach a dwy yn y Rhondda Fawr - Ynyswen, Bodringallt, Llwyncelyn, a Llyn y Forwyn.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.

Yna cafodd ei frecwast yn y gegin ac wedi iddo orffen daeth y forwyn i glirio ar ei ôl.

A chan ddilyn cyffelybiaeth a grybwyllwyd gan Iestyn Ferthyr ychwanegodd, "yr hyn a gaethiwodd y forwyn Efa drwy ei hanghrediniaeth, hynny a ryddhaodd Mair drwy ffydd." Drwy ufudd-dod llwyr enillodd Crist y fuddugoliaeth, a thrwyddo ef, fuddugoliaeth i'r ddynolryw.

O'i eni yng nghroth y forwyn, uniaethodd Iesu ei hun â'r holl ddynoliaeth o bob oes.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.

Fe'i ceryddwyd gan Maelon, oherwydd iddi ddymuno aros yn forwyn lân.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .