Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fraint

fraint

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Diolch i'w hymdrechion gyda'r Ysgol Ganolraddol, cafodd llawer ohonynt y fraint o gael addysg uwchraddol.

Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.

Ac yn rhoir argraff fod gwneud yn dda mewn arholiadau yn rhyw fath o enedigaeth fraint i fechgyn.

Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.

Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglŷn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

'Roedd Ifan Jones (Peris) yn agos at orffen pan ddechreuais i ar y tripiau, felly ni chefais y fraint o'i gwmni ef, ond cofiaf ef a'i frawd Richard (Dic Peris - tad Arwel, Hogia'r Wyddfa).

Yn fab i Ioan Arfon, ac wedi'i fagu ynghanol canolfan ddiwylliannol ferw yn nhref Caernarfon, cafodd y fraint ar ran un cystadleuydd o herio'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfreithiol (ac ennill).

Ar aelwyd Ty'r Ysgol, Coedybryn, mi gefais y fraint droeon o gael trafod gydag ef, ei farddoniaeth ei hun, a barddoniaeth beirdd eraill.

Gūr arall y bu'n fraint imi gael bod yn gyfaill iddo oedd Ioan Brothen.

Bydd hi'n fraint i gael gwrthod talu, dros y ddau ymgyrch hawliau sifil agosaf at fy nghalon.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglyn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Dywedaf yn wylaidd fy mod wedi cael y fraint o fraenaru'r tir ychydig yng Ngheredigion ar gyfer ei ddyfod.

Cafodd y fraint o dderbyn Mr Alun Garner yno, a mi 'roedd wedi dotio cael cartref mor Gymreig ynghanol y paith.

Ymfalchi%ai'n fawr yn ei swydd: yr oedd cael eistedd yng Nghadair John Morris- Jones a'i olynwyr nodedig yn aruchel fraint iddo.

Yn wir, yr wyf yn amau y medrech gael unrhyw un i actio mor naturiol a doniol a'r wraig honno a gwynai fod ei gwrcath clwyfus yn anghofio ei fod yn hen, ac nad oedd mwyach yn abl i gwffio am y fraint o gael bod yn dad!

Y tro diwethaf y clywais yr opera, yr oeddwn yn grwt dwy ar bymtheg, a chefais y fraint o'i gweld yn cael ei pherfformio yn yr Opera yn Paris.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

Ond 'rwy'n siwr y bydd yr aelodau o'r gymdeithas glos a dyfodd o'i gwmpas yn Nhalgarreg dros nifer o flynyddoedd, yn diolch am byth am y fraint o gael ei adnabod.

Ar fore Sul yn ddiweddar, cafodd cynulleidfa Penuel y fraint o wrando ar Dewi yn siarad am ei brofiadau yn ystod yr etholiad ac ymsefydliad Nelson Mandela fel Arlywydd.

Dwedodd Malcom Allen, a oedd wedi chwarae droeon gyda Saunders, ei fod wedi cael tipyn o help gan Saunders a'i bod yn fraint bod yn yr un tîm ag e.

Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.

Mae'n sylweddoli fod yna gyfnewidiadau mawr yn digwydd yn Rwsia ar hyn o bryd ac mai profiad o ddiwylliant ac amgylchiadau pur wahanol sydd yn ymaros pob un ohonynt, ond fel cenhadon hedd maent yn ffyddiog yn eu cenhadaeth ac yn diolch am y cyfle, a'r fraint o fod yn rhan o'r gwaith, a'r gweithlu.

Anodd i ni heddiw werthfawrogi yn llawn y fath fraint a gwefr ond gallwn ddychmygu - a dychmygu hefyd, o ddarllen y gyfrol hon, effaith hynny ar John Davies a'i debyg.

Unwaith eto roedd gosgordd o'u cwmpas, gosgordd fud a synnai fod brodor cyffredin yn cael y fraint o gyfarfod â'u brenin.

'Dwi'n meddwl bod y chwaraewyr, y tîm rheoli a Graham Henry wedi bod yn gwneud gwaith da dros ben a mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o'r tîm yna.

Dysg ein cenhedlaeth ni i fawrygu'r fraint honno gan ddiogelu ffrwythlonder y ddaear a chydnabod mai dy drefn Di'n unig a sicrha degwch i blanhigion ac anifeiliaid ac i blant dynion.

Fel y mae'n digwydd cefais y fraint o ddarlledu unwaith yng nghwmni Sam Jones yng nghwrs ei flwyddyn gyntaf oll ef yn y BBC.

Ni chefais erioed mo'r fraint o gyfarfod David Gwilym Lloyd Evans - ac eto yr oeddwn yn ei adnabod.

A fydden ni wedi cael yr un fraint pe baen ni'n dod o wlad fawr, imperialaidd?

Ond cefais y fraint o weld yr haul yn codi'n goch dros fforestydd Gorllewin yr Almaen.

Mae Cymru ar gwledydd Celtaidd eraill wedi dechraur broses am y fraint o gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008.

Ac mae para gyda theulu a ffrindiau da yn fraint uwchlaw dirnadaeth dyn...

Os ydyw'n Gymro go iawn ac yn un sy'n ymglywed â naws a thraddodiadau ei wlad a'i genedl ei hun, fe ddaw'r awydd i ddysgu'r hen iaith er mwyn ailgydio yn ei enedigaeth-fraint.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Cyril Edwards, iddo gael y fraint o wrando ar siarad grymus dros ben ac fe ddyfarnodd Clwb Dolgellau yn orau.

Yr oedd yr hen wraig y cefais i'r fraint o'i hadnabod yn siarp a sensitif hyd y diwedd, yn falch ac yn atgofus, yn feistres ar ei theimladau ac ar ei meddyliau.