Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

franco

franco

Ond fe gollir popeth a fu'n werthfawr erioed gennym yng Nghymru os â Hitler ymlaen i ychwanegu eto at y galanastra a wnaed ganddo'n barod; ni buasai'n bosibl i mi nac i tithau, gyfaill, a fagwyd yn nhraddodiadau rhyddfrydig a dyngarol Cymru, fyw o gwbl mewn unrhyw wlad a orchfygwyd ganddo ef na chan Mussolini lwfr na chan Franco grefyddus.

Honwyd fod Saunders Lewis yn edmygu Franco.

Ymladdodd y ddwy wlad Ffasgaidd fawr , Yr Almaen a'r Eidal, ar ochr byddin Ffasgaidd Franco yn erbyn y gweriniaethwyr, anarchwyr, sosialwyr a chomiwnyddion.

Franco yn fuddugol yn Rhyfel Cartref Sbaen.

mae'r trydydd detholyn, Magnus Norman, drwodd i rownd derfynol Pencampwriaethau Tenis Agored Ffrainc yn Paris ar ôl curo Franco Squillari o dair set i ddim.

Rhyfel Cartref Sbaen yn cychwyn a Hitler a Mussolini yn cefnogi'r ffasgydd Franco.

Ymladdodd y ddwy wlad Ffasgaidd fawr, Yr Almaen a'r Eidal, ar ochr byddin Ffasgaidd Franco yn erbyn y gweriniaethwyr, anarchwyr, sosialwyr a chomiwnyddion.

Franco yn dienyddio pump aelod o fudiad ETA o Wlad y Basg, ond yn marw ddau fis yn ddiweddarach a'r Brenin Juan Carlos yn dod yn ben ar y Llywodraeth, hyn yn arwain at ailsefydlu democratiaeth yn Sbaen.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac yna yn oes Franco, roedd y Basgiaid yn aml yn ffoi i Lydaw ac yn cael lloches yno.

Dyma wrth gwrs a ddywed Franco wrth y Basgiaid a'r Catalaniaid: Pompidou wrth y Llydawyr: Brezhnev wrth y Latfiaid, y Lithwaniaid, yr Estoniaid - a'r Sieciaid a'r Slofaciaid a llawer cenedl arall sydd yn eu gwladwriaeth neu'n ffinio â hi.

Daeth Rhyfel Cartref Sbaen i ben gyda buddugoliaeth i Franco a'r Cenedlaetholwyr.