Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fras

fras

Yn fras, dyma beth ddigwyddodd.

Yn wir, arddull rydd, fras iawn sydd i'w gweld yn y gwaith er ei bod yn arddull sydd yn medru amrywio o ddarlun i ddarlun yn ôl fel y bo'r galw.

Un fras heno.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Fe berthynai'r saint, yn fras, i'r oes Arthuraidd, a rhan o'r darlun hanesyddol o Arthur yw'r portread ohono a geir yn y Bucheddau, er ei fod yn sicr yn cynnwys elfennau chwedlonol.

A dyma fi wedi rhoi rhyw fras ddarlun i chwi o hanes y Capel.

A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Mae'r ddogfen hon yn ceisio dweud yn fras beth ddylai'r Bwrdd ei wneud i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r iaith Gymraeg.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Nid ydynt mor fras, mor uniongyrchol yn aml iawn.

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

y dyn sydd byth a beunydd yn canmol ei wlad a'i iaith, ac yn aml yn dal swydd fras o'u herwydd, ond sydd er hynny yn magu ei blant yn Saeson uniaith.'

'Roedd ei chamau yn fras ac yn sicr erbyn hyn.

Gan mai yn nhrymder nos, gan amlaf, yr â allan i bori bydd yn traflyncu ei bwyd yn fras er mwyn diwallu'r angen yn gyflym.

Y nod yn fras fyddai gwneud dadansoddiad o anghenion menywod a phlant sy'n ymadael â llochesi ar sail o ran lleoliad daearyddol, nifer ac ansawdd y cartrefi fydd eu hangen.

Daw'r ail gyfeiriad o gerdd y credir ei chyfansoddi yn y seithfed ganrif, Marwnad Cynddylan, lle y disgrifir Cynddylan ap Cyndrwyn a'i feibion o bowys fel canawon Arthur fras, sef 'epil ieuainc Arthur Fawr'.

Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.

Gellir eu gosod yn fras mewn dau gategori, yn cynrychioli yr agwedd offeiriadol a'r agwedd broffwydol.

Dyma'n fras gefndir ac egwyddorion y mudiad nodau graddedig.

Rhyw fras nodiadau a fyddai ganddo, ac wrth ei thraddodi y rhoed i'r ddarlith ei ffurf derfynol.

Yn naturiol, bydd yr amcangyfrifon am y rhannau pellach yn fras iawn.

Mewn cilfach sych a chysgodol, ar ol bwyta'n fras, mae'r cysgaduriaid fel y draenog a'r pathew yn gaeafu, a churiad eu calon a'u hanadlu wedi arafu yn arw.

A siarad yn fras, y mae tri phatrwm i'w nodi, er bod amrywiaeth yn nodweddu pob un ohonynt.

Yn fras, rhaid symud y pwyslais oddi wrth fuddsoddi o'r tu allan i fuddsoddi cynhenid, a sicrhau bod hynny o fuddsoddi o dramor a ddenir o well ansawdd na'r swyddi cyflog isel, sgiliau rhoi-pethau-at-ei-gilydd a welsom yn ystod yr wythdegau.

I grynhoi eto gellid yn fras eu rhannu'n dri dosbarth.

Rhennir y cyrsiau yn fras yn ddau fath sef:

Awgrymodd - - y byddai'n dda i gynhyrchydd sydd yn bwriadu ariannu'r datblygu syniad i drafod y cynnwys yn fras gyda'r comisiynydd cyn gwneud y buddsoddiad rhag ofn fod sawl syniad tebyg ganddo o dan ystyriaeth neu broblem arall tebyg.

GWLEIDYDDION YMARFEROL Yn fras, dynion yw y rhai hyn a gred, fel Karl Marx, fod llawer iawn o egni wedi bod ar waith i roi seiliau damcaniaethol ac egwyddorol i gred boliticaidd, ond mai eu dyletswydd hwy ydyw gweithredu.

Yn fras felly, gan mai ef sy'n drydydd ar restr ymgeiswyr ei blaid, rhaid i Lafur enill rhyw drigain y cant o'r bleidlais iddo fod yn sicr o gadw'u sedd.

Mae teip rhy fras yn gallu ymddangos yn nawddoglyd.

Wedir cyfan, onid dyna yw hanfod busnes a menter - eich bod yn bywn fras ar eich llwyddiant a llyfu clwyfau unrhyw fethiant.

Yn y sefyllfa bresennol gellir yn fras ddisgrifio lefel ieithyddol plant mewn pum categori: a) hwyr-ddyfodiaid; b) dysgwyr; c) dysgwyr da; ch) safon estynedig yn y Gymraeg; d) mamiaith.

Mi garwn yn awr nodi'n fras dair gwedd ar y math hwn o feddwl a cheisio dangos y peryglon sydd ynddynt i'r iaith Gymraeg.

Nododd un mai'n fras iawn, mewn cyfarfod a drefnwyd gan gydlynydd y sir yn unig, y cafwyd cyfle i drafod y deunydd hwn.

Gwelir yr un patrwm yn fras yn arglwyddiaethau'r Mers ag yn y Dywysogaeth.