Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frawychus

frawychus

`Mae e'n frawychus.' `Efallai ...' `Efallai beth?' `Efallai mai rhybudd yw e, ac y dylsen ninnau adael hefyd.' Ni fu'r bobl yn hir cyn penderfynu.

Dymuna ffrindiau Mr Huw Williams estyn eu cydymdeimlad dwys â Mrs Williams a Bethan ar eu profedigaeth o'i golli mor frawychus o sydyn tra roedd y teulu ar eu gwyliau ar Ynys Creta.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Oedd ei anadl yn drewi, neu ei gorff, neu = am un eiliad frawychus credodd ei fod yn drewi fel ffwlbart = ond na, yr idiot blewog yna yn ei ymyl oedd yn chwarae â'r llosgydd Bunsen.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Yr oedd y llythyrau hynny'n frawychus, gyda'r 'peth mwyaf arswydus a glywyd', a chytunodd y mwyafrif ohonynt yn hollol annibynnol ar ei gilydd nad oedd dim ymdeimlad fod angen Cristionogaeth nac Eglwys ymhlith y lliaws mawr.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Yn frawychus o sydyn bu farw Miss Myfanwy Hughes yn ei chartref "Trefair", Rhodfa Sant Mair ar Fawrth y deuddegfed.

Roedd yr eiliad yna, pan ddychmygais sut byddai hi arnon ni petaen ni wedi cael ein dal gan y banditos, yn eiliad frawychus.

Ar un olwg y mae'r maes yn frawychus o agored, 'Some easy Greek or Latin author'?

Yr olygfa frawychus yn Aberdaugleddau yn sir Benfro ddydd Sur.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.

Yr oedd yn frawychus weithiau bod mor agos at gynifer o berfformwyr da.