Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

freichiau

freichiau

Wedi cyrraedd y Wernddu taflodd ei hun i gadair freichiau, ac adroddodd, mewn cyn lleied o eiriau ag a allai, hanes yr ymgyrch wrth ei chwaer Gwen.

O beth i beth daeth JR i eistedd i'r gadair freichiau, roedd pob gewyn yn ei gorff yn frau gan flinder.

Eisteddai mewn cadair fel hen gadair deintydd a chlampiau cryf am ei draed a'i freichiau.

Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.

Stopiodd a chododd ei freichiau.

Mae 'na un yn arbennig yn mynnu cael fy sylw i; yn canu'i gorn a chwifio'i freichiau fel octopys yn arwain côr cymysg.

Pan ddaw'r amser i fedyddio'r baban, a'r cwmni'n nesau at y ffynnon, fe neidia'r plentyn o freichiau'r wraig sy'n ei gario, fe gyrraedd y dŵr mewn tair naid ac ymdrocha ynddo ar ei ben ei hun.

Gan weiddi a chwifio'i freichiau, ymbiliodd dros y miloedd o Kurdiaid a fyddai'n marw oni châi'r lluniau eu dangos yn y Gorllewin.

Neu un â chwech o freichiau?

Dechreuodd sgwrio nerth ei freichiau a'r ewyn yn codi'n lafoer gwyn o safn ei frwsh.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

Dododd ei fedal a'r llun yn ôl yn ei focs, cau'r clawr ac eistedd ar y gadair â'i focs yn ei freichiau.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Serch hynny, mae yna dystiolaeth mai cael ei arwain, os nad ei wthio, i freichiau'r Rwsiaid oedd tynged Fidel, yn hytrach na dilyn ideoleg bersonol.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

(WALI yn llamu o'i gadair freichiau i wynebu HEULWEN gyda'i wyneb yn llawn serch.

Ar freichiau'r plant, mae yna freichled o un o dri gwahanol liw.

Teimlai nerth anhygoel yn llifo i'w freichiau a'i ddwylo.

"Felly roeddwn i'n tybio." Cyn iddi fedru'i osgoi, tynnodd hi i'w freichiau a'i gwasgu ate i fron.

Yr oedd Nain Fawr yn eistedd mewn cadair freichiau ddofn, ac yr oedd Anti yn ei holi am yr amser gynt.

Ar yr ochr arall i'r lle tan yr oedd cadair freichiau, ac yn honno yr eisteddai hi i ddarllen.

Mae un siliwm gyda'r breichiau dynein bach mewn cyfeiriad clocwedd yn paru a siliwm a'i freichiau'n pwyntio i gyfeiriad gwrthglocwedd; dengys hyn eu bod yn dod o badiau gwahanol.

Yna teimlodd ei freichiau'n cael eu rhwygo oddi ar wddf y llipryn o'i flaen.

Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.

Ymollyngodd i'r gadair freichiau y codawn ohoni, estynnodd ei law yn reddfol am y blwch tybaco ar y pentan yn ei ymyl, a dechreuodd lenwi ei bibell yn araf a phruddaidd.

Ydi'r postciard yna yn dy boced ti'n barod?" "Ydi." Eisteddai William erbyn hyn ar y gadair freichiau a'i droed ar y ffender yn cau ei esgid, a rhôi ei ben i lawr cyn ised ag y medrai rhag i neb weld ei fod bron â chrio.

Clywn ei sŵn yn stwyrian ac yn murmur draw yno, a chyn bo hir dyma fo'n ymddangos o'i guddfan dan groesi'r llawr llydan ar ryw hanner dawns, ond wrth chwifio'i freichiau llithrodd y stethosgop o'i ddwylo dan sglefrio ar bolish y linolewm fel sarff rwberog.

Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.

Yna, sylweddolodd fod un o'r bobl oedd arni wrthi'n chwifio'i freichiau'n wyllt, i dynnu'u sylw nhw.

Anesmwythodd y Cripil yn ei freichiau am fod gwres y tân yn ysu ei gnawd.

(Saib fer, cyn i GARI gamu ymlaen, codi LIWSI a'i chwyrli%o o gwmpas yn ei freichiau.)

Gyda hyn, cerdda dyn heibio i mi â bwndel bach gwyn yn ei freichiau.

Pan ddaethant yn eu holau o'r diwedd i dawelwch cymharol ei swyddfa, daeth dyn ifanc o'r ystafell nesaf a sefyll yn y ddôr â llond ei freichiau o lyfrau cownt 'Lisa, oes modd i mi gael gair .

Ceisiodd wau ei ffordd drwy'r dyrfa a'r ceffylau, a chyhyrau'i freichiau'n dyheu am roi'r gurfa.

Rhyddhaodd Alun ei hun o freichiau Nia ac meddai wrthi: "Tyrd, mi awn ni i ofyn i dy dad gei di fenthyg y car i fynd â mi i Berth y Felin." "I beth?" "I ddweud wrth Jenkins y twrne nad ydw i am werthu'r fferm." "Dwyt ti ddim ffit i fynd allan a tithau newydd godi o dy wely," meddai ei fam .

Ceisia gysgu - dyna'r unig feddyginiaeth am y tro." Clymodd ei freichiau'n dynn amdani a chusanu ei gwallt.

Yn raddol cryfhaodd ei freichiau a chyn pen dim roedd Norman yn medru dringo unwaith eto.