Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frenhiniaeth

frenhiniaeth

Ar Galfaria gorchfygodd y Gwaredwr y galluoedd erchyll sy'n herio ei awdurdod a'i frenhiniaeth,

Fel y gwyddoch, mae'n debyg, y mae yna saith canrif ers i'r frenhiniaeth Seisnig sicrhau rheolaeth ar Gymru trwy rym arfau.

Cymer Mr Thomas fantais ar hyn i esbonio sail Feiblaidd safbwynt Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.

Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.

Os yw'r rhyfel yn cael ei ymladd dros frenhiniaeth annemocrataidd sy'n coleddu agweddau tuag at drosedd a chosb, hawliau merched, a rhyddid yr unigolyn sy'n atgas i'n diwylliant ni, fe ddylai'r cyhoedd gael gwybod hynny hefyd.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru a'r dathlu a'r protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfa'r frenhiniaeth heddiw.

Yn ail mae'r frenhiniaeth yn arwydd o'r diffyg democratiaeth yn ein gwlad, yr annhegwch cymdeithasol ac amharodrwydd y drefn wleidyddol i addasu a moderneiddio.

A rhaid cofio, wrth gwrs, fod y gred y gallai Ailddyfodiad Crist ddigwydd yn fuan yn beth hynod gyffredin ymhlith cyfoeswyr mwyaf uniongred Llwyd, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cofleidio syniadaeth Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.

Dydw i ddim yn broffwyd ond rwyn darogan y bydd y Frenhiniaeth rhyw ddydd a ddaw yn melltithio y penwythnos diwethaf wrth i'r holl ddalennau o siwgwr cyfoglyd eplesu - fel maen nhw'n siwr o wneud - yn fustl.

'Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?'

Mewn noson thematig, yn dwyn y teitl Ar yr Orsedd, fe gymerwyd golwg ddychanol ond, lle y bon briodol, difrifol hefyd ar y Teulu Brenhinol yma ar frenhiniaeth o amgylch y byd.

Ers marwolaeth Diana bu rhyw fath o râs ymataliol ac maen debyg mair lluniau dros o Sul ydoedd y gwyro gwirioneddol cyntaf oddi wrth hynny - a hynny dan sêl bendith y Frenhiniaeth ei hun a oedd yn siwr o fod yn ymlawenhau yn yr holl sylw canmoliaethus.

Fe orfodwyd y cynghreiriaid a ryddhaodd frenhiniaeth ffiwdal Kuwait i roi help llaw am y tro i genedl hynafol na chafodd fyth gydnabyddiaeth deilwng gan y byd rhyngwladol.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

O gwmpas deiliad y Goron y tyfai cwlt y frenhiniaeth.

Cyn bo hir gwelir cyhoeddi clamp o nofel gan Rhydwen Williams yn ymdrin a helyntion personol a chyhoeddus y frenhiniaeth yn y cyfnod cythryblus hwnnw, sef Liwsi Regina.

Y peth sy'n drawiadol am Lyfr y Tri Aderyn yw absenoldeb delweddau'r Bumed Frenhiniaeth.

Ac yn cofion well byth yr hyn a ddigwyddodd wedyn wrth i fwystfilod afreolus y Frenhiniaeth a'r Wasg fod au dannedd yng nghynffonau ei gilydd.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru ar dathlu ar protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfar frenhiniaeth heddiw.