Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frenin

frenin

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

Wrth wneud hynny bydd yn rhoi ei Frenin yn y lle mwyaf diogel posibl.) Felly dyna Gwyn wedi gwneud llawer mewn ychydig.

Ond ar y cyfan roedd Affos yn frenin call, a gadawodd y mater i'r llys i'w benderfynu.

Bron nad yw Mihangel Morgan yn frenin y stori fer, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, erbyn heddiw.

Y cyhuddiad yn erbyn Iesu o Nasareth, er hyn i gyd, oedd ei fod wedi hawlio bod yn Frenin Israel, yn Feseia.

Wrth eirio'r arysgrif gwawdiai Pilat y genedl wrthnysig trwy sgrifennu'n foel fod y truan gwrthodedig yn 'Frenin yr Iddewon'.

Coroni Siôr y Pumed yn Frenin.

Yr oedd Arthur, sylwer, yn 'frenin ar Brydain'.

Roedd Jehosaffat yn frenin eitha derbyniol, ond druan ohono, roedd yna rywbeth bach yn mynd o'i le iddo o hyd ac o hyd.

Siôr V yn marw, Edward VIII yn frenin ac yn dod i Ddowlais i weld y miloedd di-waith ac yn dweud 'something must be done'. Cyn diwedd y flwyddyn 'roedd Edward VIII wedi ymddiswyddo oherwydd ei berthynas â Wallis Simpson.

Dringo llethr mwy creigiog ac yna'r grud sydd frenin yn ei borffor.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Edward VII yn marw, Siôr V yn dod yn frenin.

Edward VII yn marw, Siôr V yn dod yn frenin.

Fel ambell wleidydd modern, dyma frenin y croen banana.

Roedd un peth yn gyffredin i'r ddau frenin fodd bynnag, sef eu bod yn garedig tu hwnt ac ored eu pobl yn meddwl y byd ohonyn nhw.

Roedd y ddau yn frenhinoedd - Lludd yn frenin Ynysoedd Prydain a Llefelys yn frenin Ffrainc.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Daeth Ceredig yn frenin ar 'wlad' Ceretigion ('gwlad' yn yr hen ystyr gyfreithiol, sef brenhiniaeth).

A fedrwn ni yn awr ddisgwyl gan Charles, pan ddaw (os daw) yn Frenin Cymru, y bydd, ar fyrder, yn rhoi Pardwn Brenhinol - o barch coffadwriaeth - i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams?

Fe fydd y chwaraewr anghyfarwydd yn aml - yn ceisio ymosod ar Frenin ei wrthwynebydd o'r cychwyn cyntaf ac yn barod i aberthu darnau bach a mawr i gyrraedd ei amcan.

Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a'th waredo di yn dy holl ddinasoedd?

'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd Siôr y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr.

Ar ôl y methiant hwn bu Owain yn gweithio dros Frenin Ffrainc ond anghofiodd ef fyth mo'i freuddwyd o fod yn Dywysog Cymru.

\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Cysylltiad â'r India Yn ôl traddodiad daeth Cambodia i fod pan briododd merch y sarff frenin seithben, Naga, â thywysog yr India.

Er cryfed yr ymlyniad wrth yr arglwydd, boed hwnnw'n frenin neu'n Dywysog Cymru neu'n ŵr mawr o Norman, anodd osgoi'r casgliad fod ymhlith y Cymry ymwybod cryf iawn hefyd â'u cenedligrwydd ac â'r ffaith eu bod bellach yn genedl orchfygedig a than orthrwm.

Disgrifiodd Tiglath-pileser I ei hun fel dymuniad calon y duwiau, a ddewiswyd ganddynt a'i osod yn frenin, a chyhoeddodd Cyrus i'r duw Marduc ei alw i fod yn frenin yr holl fyd.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Enwir y cyntaf o'r testunau hyn gan Ieuan Llwyd fab y Gargam yn ei awdl yntau i Hopcyn, ac y mae Ieuan yr un mor groyw a Dafydd y Coed wrth dystiolaethu i'r croeso a geid ganddo: fe'i geilw'n 'heirddgler fabsant' yn 'glerwyr frenin' ac yn 'wiwri anant'.